Animeiddiad RESPECT: adnodd hyfforddi i’r heddlu ynglŷn â deall effaith hiliaeth o safbwynt plant.
Mae Prosiect RESPECT (Racialised Experiences Project: Education, Children & Trust) yn ymateb i alwadau i ddeall profiadau plant o hiliaeth ac yr effaith ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Roedd yr astudiaeth yn dangos bod y berthynas rhwng plant ifanc a’r heddlu ar chwâl. Mewn ymateb i hyn, mae’r tîm RESPECT wedi bod yn gweithio ar y cyd â Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn ddiweddar i greu adnodd newydd yn y gobaith o ddylanwadu ar arferion gwrth-hiliol yn yr heddlu. Mae’r animeiddiad yn cyflwyno pedair enghraifft go iawn o brofiadau plant. Roedd y plant rhwng 9 ac 11 oed, o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol. Dywedodd y plant eu bod wedi’u siomi gan yr heddlu, bod yr heddlu gwneud iddyn nhw deimlo’n anniogel, a’u bod weithiau ofn gadael eu cartrefi ac yn poeni bod aelodau o’u teulu’n cael eu targedu gan swyddogion yr heddlu. Mae’r rhannau hyn o’r animeiddiad yn cael eu lleisio gan blant o un o’r ysgolion a oedd yn rhan o’r gwaith ymchwil gwreiddiol.
Caiff yr animeiddiad ei defnyddio yn rhan o gyrsiau Plismona Proffesiynol Prifysgol Gorllewin Lloegr i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth. Nod yr animeiddiad yw annog swyddogion yr heddlu i wrando ar brofiadau a safbwyntiau’r plant a chadw hyn mewn golwg wrth weithio â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio yn hyfforddiant Race Matters Cwnstabliaeth Avon a Gwlad yr Haf.
Gwyliwch yr animeiddiad Prosiect RESPECT Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste yma: Animeiddiad Hyfforddiant Race Matters i’r Heddlu, gyda chymorth y plant

Cysylltwch â Verity6.Jones@uwe.ac.uk am ragor o wybodaeth
Athro Cyswllt Addysg yw Dr Verity Jones Dr Verity Jones – Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste
Cyfarwyddwr Cyswllt Plismona yw Dr Anne Eason Dr Anne Eason – Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste
Artist, darlunydd ac ymchwilydd doethurol sydd â’i bys ar byls materion cymdeithasol
https://people.uwe.ac.uk/Person/Luci2Gorellbarnes
RESPECT: https://respectprojectbristol.org/
I ddarllen llyfr y plant ar-lein: https://issuu.com/uwebristol/docs/if_racism_vanished_for_a_day
Canllaw i athrawon: https://respectprojectbristol.org/?page_id=187
‘Ble ydych chi’n ei deimlo gryfaf?’ Defnyddio mapio’r corff i ystyried profiadau bywyd o hiliaeth gyda phobl ifanc 10 ac 11 oed’: British Educational Research Journal: Cyf 50, Rhif 3 (wiley.com)
UKRI a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste sy’n ariannu prosiect RESPECT.