Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu gyda chostau ysgol

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is a’r rhai sy’n gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau. Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal hefyd yn gymwys ar gyfer y grant. 

Bydd y Grant Hanfodion Ysgol yn agor ar 1 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 31 Mai 2026.

Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chostau gwisg ysgol.

  • £125 y plentyn
  • £200 i blant sy’n dechrau Blwyddyn 7

Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen hanfodion ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim

O fis Medi 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael prydau ysgol am ddim.

Gall disgyblion ysgol uwchradd fod yn gymwys os yw eu rhieni neu eu gofalwyr yn cael budd-daliadau penodol. I wneud cais ewch i dudalen Llywodraeth Cymru ar gyfer costau ysgolion.

Awgrymiadau i reoli gorbryder a lles

Os yw’ch plentyn yn pryderu am ddychwelyd i’r ysgol, mae Gweithredu dros Blant wedi cynnig awgrymiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn cymorth o adnoddau i helpu teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol.

Mae gan Twinkl lawer o adnoddau y mae modd eu hidlo yn ôl grŵp oedran a all helpu i reoli pryderon a gorbryder ynghylch dychwelyd i’r ysgol a chefnogi gweithgareddau addysgol. Mae adnoddau ar gael yn y Gymraeg hefyd.