Uwch-swyddog Ymchwil; Polisi Cyfiawnder

Rydym yn recriwtio Uwch-swyddog Ymchwil i gefnogi’r gwaith o graffu ar bolisi cyfiawnder o fewn Ymchwil y Senedd.

Byddwch yn darparu gwaith ymchwil seneddol annibynnol a diduedd i’r holl Aelodau o’r Senedd i gefnogi eu gwaith craffu, gwaith deddfwriaethol a gwaith cynrychioliadol. Mae’r rôl hon yn cynnwys ymchwilio i faterion polisi a deddfwriaethol cymhleth, gwerthuso tystiolaeth a chyfleu canfyddiadau mewn ffordd glir a hygyrch i gefnogi dadl a phenderfyniadau sy’n digwydd mewn ffordd wybodus.

Mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth o dirwedd wleidyddol a deddfwriaethol Cymru a’r gallu i asesu sut y gallai datblygiadau polisi, deddfwriaethol a chyfansoddiadol effeithio ar Gymru. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Ymchwil y Senedd, gan gydnabod bod llawer o faterion polisi yn torri ar draws ffiniau pwnc traddodiadol ac yn gofyn am ddadansoddiad rhyngddisgyblaethol.

Gwneud cais Nawr


Swyddog Ymchwil Uwch (dwy swydd)

Rydym yn recriwtio dau Swyddog Ymchwil Uwch amser llawn I dîm Ymchwil y Senedd a fydd yn gweithio ar amryw o feysydd polisi ac sy’n debygol o weithio ar y meysydd polisi a ganlyn:

– Swydd 1: Amgylchedd a Thrafnidiaeth / y Cyfansoddiad
– Swydd 2: Sgiliau ac Addysg ôll-16 / yr Economi

Yn dibynnu ar anghenion y gwaith, bydd gofyn i ddeiliaid y swyddi weithio yn y meysydd pwnc eraill a gwmpesir gan Ymchwil y Senedd.

Diben y swyddi hyn yw darparu briff ffeithiol diduedd, annibynnol ac arbenigol ar bob agwedd ar bolisïau, deddfwriaeth ac ystadegau perthnasol i gefnogi Aelodau a phwyllgorau’r Senedd. Gall y briff hwn gynnwys ymchwil eilaidd ac mae angen dadansoddiad beirniadol o amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth. Mae’r rolau hefyd yn cynnwys ysgrifennu a chyhoeddi erthyglau i lywio dadleuon a gwaith craffu, gan hwyluso dealltwriaeth o waith ehangach y Senedd

Gwneud cais Nawr


Swyddog Ymchwil Uwch; Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Rydym yn recriwtio Swyddog Ymchwil Uwch i weithio ar bolisi cydraddoldeb a hawliau dynol o fewn Ymchwil y Senedd.

Mae polisi cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn gweithredu o fewn tirwedd gymhleth o gyfrifoldebau datganoledig, a’r rheini a gadwyd yn ôl. Gyda chefnogaeth gan uwch gydweithwyr, byddwch yn helpu Aelodau a phwyllgorau i ddeall sut mae dyletswyddau Cymru, fframweithiau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled y DU, a rhwymedigaethau rhyngwladol yn berthnasol ar draws meysydd polisi datganoledig megis iechyd, addysg, tai, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a diogelwch cymunedol.

Gwneud cais Nawr