Swyddog Cymorth Gallu a Diwylliant
Diben y swydd:
Darparu cymorth gweithredu a chydlynu o safon uchel ar gyfer gweithgarwch ym maes dysgu a gallu, gan hwyluso cyflawni effeithiol drwy weinyddu cywir, defnyddio offer digidol a darparu cymorth sy’n ymatebol i gwsmeriaid.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi effeithlonrwydd, ansawdd data a’r broses o ddarparu gwasanaethau, gan weithio o dan gyfarwyddyd y Swyddog Gweithredol ac o fewn prosesau sefydledig.
