Ydych chi’n athro, gweithiwr ieuenctid neu’n academydd sydd wedi’i ysbrydoli gan stori AGENDA: Arweiniad pobl ifanc i wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig a’i roi i weithio yn eich lleoliad? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ar hyn o bryd mae’r Athro Emma Renold a’i chydweithwyr y tu ôl i adnodd AGENDA yn chwilio am gyfranogwyr ar gyfer prosiect ymchwil sy’n asesu ei gyrhaeddiad a’i effaith.

Wedi’i greu ar y cyd â phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, cychwynnodd AGENDA fel adnodd actifydd dwy-iaith, 75 tudalen i fynd i’r afael â thrais rhywiol ar sail rhywedd. Er 2016 mae AGENDA wedi ehangu i fod yn adnodd rhyngweithiol ar-lein ar gyfer ymarferwyr a phobl ifanc gydag astudiaethau achos a gweithgareddau newydd ychwanegol o Gymru a Lloegr ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd (gweler www.agendaonline.co.uk).

Mae’n adnodd amserol gan fod perthnasoedd ac addysg rhyw ar fin dod yn orfodol yng Nghymru a Lloegr. Mae adnodd AGENDA yn darparu ystod o weithgareddau rhyngweithiol a hygyrch i ymarferwyr i gynorthwyo plant a phobl ifanc i godi llais yn ddiogel ac yn greadigol ar faterion sydd o bwys iddynt. Mae’n adnodd sydd wedi’i gynllunio i gael ei addasu, felly rydym yn awyddus i ddeall sut mae’r adnodd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu dulliau ysgol gyfan o ymdrin â pherthnasoedd cadarnhaol a darpariaeth RSE, yn ogystal â’r heriau a’r rhwystrau y mae ymarferwyr yn eu hwynebu wrth roi’r adnodd i gweithio yn eu lleoliadau.

Rydym yn gwahodd ymarferwyr i gwblhau’r arolwg byr hwn am eu profiad gydag AGENDA. Yn ogystal, rydym yn chwilio am ymarferwyr a allai fod yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol i’n galluogi i ddysgu mwy am wahanol brofiadau o ddefnyddio ac addasu’r adnodd, yn ogystal â’r heriau a wynebir.

Gobeithiwn y bydd yr astudiaeth hon yn helpu i nodi meysydd lle mae angen cymorth ychwanegol ac yn llywio datblygiad adnodd AGENDA yn y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ym mhrosiect ymchwil Educating AGENDA, neu os hoffech ddarganfod mwy am yr astudiaeth, e-bostiwch marstonke@cardiff.ac.uk.

Kate Marston, Prifysgol Caerdydd
marstonke@cardiff.ac.uk – @KMars08

Y ddolen i’r arolwg yw – https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/educating-agenda. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am AGENDA mewn eitemau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar ExChange: Family and Community: AGENDA: Cefnogi plant a phobl ifanc i wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig.

AGENDA: Cefnogi plant a phobl ifanc i wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig – Emma Renold – 7 Hydref 2019