Mae cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, Cefnogaeth y Trydydd Sector Cymru a’r GIG yng Nghymru yn dod â gwybodaeth ynghyd o ddewisiadau adnoddau Dewis Cymru, Infoengine a GIG Cymru Uniongyrchol i greu un ap all-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen ledled Cymru.

Mae’r Ap newydd – ‘Iechyd a Llesiant Cymru’ ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig sydd â chyfeiriadau e-bost ‘whitelisted’ ac mae’n darparu mynediad at fanylion gwasanaeth a gwybodaeth gyswllt ar gyfer dros 10,500 o sefydliadau lleol a chenedlaethol, grwpiau cymunedol a gwasanaethau.

Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd i’w ddefnyddio o ddydd i ddydd. Ar ôl ei lawrlwytho, mae’r App yn annog y defnyddiwr i ddiweddaru gwybodaeth o bryd i’w gilydd i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol.

Offeryn delfrydol ar gyfer…

Nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, swyddogion heddlu, cysylltwyr cymunedol, rhagnodwyr cymdeithasol, ac unrhyw staff cymunedol eraill. Gall defnyddwyr ‘leoleiddio’ gwybodaeth ar gyfer eu hardal trwy lawrlwytho gwybodaeth ar gyfer eu hardal leol yn unig.

Mae cyfleuster chwilio pwerus yn golygu y gall defnyddwyr chwilio am adnoddau yn ôl allweddair, categori, awdurdod lleol a / neu ardal leol, a ‘rhannu’ y wybodaeth sy’n deillio ohoni drwy’r cymwysiadau symudol arferol gan gynnwys e-bost, neges destun, Facebook, Messenger ac ati.

Gall defnyddwyr hefyd ‘ddangos’ neu ‘guddio’ dros 900 o adnoddau cenedlaethol sy’n cael eu cynnwys yn ddiofyn yn yr App. Mae’r App yn gwbl ddwyieithog ac yn gydnaws â Android ac iOS.

I ddod o hyd i’r App a’i lawrlwytho, ewch i’r siop App neu Google Play a chwiliwch am ‘Health and Well-being Wales’. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost gwaith i gofrestru. Gallwch hefyd gyrchu’r cyfeirlyfr a rennir trwy ymweld â www.dewis.wales.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jodie Phillips (jodie.phillips@data.cymru).