Bydd y pecyn cymorth ymgysylltu â rhieni a gofalwyr hwn yn helpu lleoliadau i egluro’r newidiadau i’r cwricwlwm a sut y byddan nhw’n effeithio ar eu plant. Mae’r adnoddau’n cynnwys poster, templed cylchlythyr a negeseuon allweddol.

Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i gynnwys rhieni a gofalwyr ym mhrofiadau dysgu newydd a chyffrous eu plant. Bydd yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o’r newidiadau yn y cwricwlwm a sut mae’r rhain yn cael eu defnyddio yn eich lleoliad