Adnoddau Dysgu Proffesiynol Cymruhttps://addysgcymru.blog.llyw.cymru/2024/04/17/adnoddau-dysgu-proffesiynol-cymru-bellach-mewn-un-lle/
Am y tro cyntaf, mae adnoddau Dysgu Proffesiynol wedi cael eu canoli mewn un lle ar Hwb. Bellach, mae’r adnoddau, sydd wedi’u categoreiddio o’r newydd, ar gael i holl ymarferwyr addysg Cymru eu chwilio drwy’r ardal dysgu proffesiynol. Mae’r ardal dysgu proffesiynol wedi ei drefnu mewn ffordd sy’n helpu ymarferwyr i ddod o hyd i’r adnoddau iawn ar gyfer eu hanghenion dysgu proffesiynol, beth bynnag yw’r anghenion hynny. O fewn yr ardal, bydd ystod eang o hyfforddiant, adnoddau hunanddysgu, astudiaethau achos, canllawiau a gwaith ymchwil ar gael i ymarferwyr ar bob agwedd ar ddysgu proffesiynol. Mae’r fideos yma’n dangos pa mor hawdd yw hi nawr i gael mynediad at adnoddau Dysgu Proffesiynol ar Hwb.