Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Gyfnewidfa Cymru. Mae rhestrau o ddigwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
18th Tachwedd 2024
11:00 – 17:00
Arena Abertawe, Oystermouth Road Bae Copr Bay SA1 3BX
Mae WE Cymru, Cwmpas, Oxfam Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 4theRegion a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn trefnu’r Gŵyl Syniadau Economi Llesiant Cymru gyntaf yn Arena Abertawe ar 18 Tachwedd 2024.
Bydd hon yn Ŵyl Syniadau, sy’n agored i bawb o bob cefndir, gyda pherthnasedd arbennig i’r holl rai hynny sy’n gweithio yn y busnes cynaliadwy, datblygu’r economi, grymuso’r gymuned a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nod y digwyddiad hwn fydd newid y ffordd yr ydym yn meddwl am ein heconomi, ei bwrpas, a’i bosibiliadau – a bydd yn amlygu camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i drawsnewid Cymru i economi llesiant.
Ymunwch ậ ni, wrth i ni ddod at ein gilydd o gymunedau, busnesau a sefydliadau, i archwilio’r hyn y gall Economi Llesiant ei wneud dros Gymru.
Gyda phrif siaradwyr gan gynnwys…
- Kate Raworth, awdur ‘Doughnut Economics’
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
AGENDA AMLINELLOL
Siarad ậ’r sectorau cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector, a gwrando ar ystod eang o leisiau, gan archwilio syniadau pwerus sy’n cynnig cyfeiriad clir i economi Cymru.
Pwysigrwydd mesur yr economi llesiant, i gydbwyso metrigau economaidd traddodiadol megis Cynnyrch Domestig Gros (GDP), ac ysgogi newid go iawn.
Mae ein system economaidd yn ffocysu ar dwf economaidd. Sut fedrwn ni sicrhau ein bod yn datblygu economi sy’n dod ậ llesiant i bobl, lleoedd a’r blaned?
Beth mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd, busnes, corff cyhoeddus neu sefydliad Economi Llesiant, a’r modd y gallwn i gyd fuddsoddi yn (a thyfu) economi llesiant Cymru o ddydd i ddydd.
Sut y gall Economïau Llesiant ddarparu’r naratif unedig sydd arnom ei angen ar gyfer yr economi yng Nghymru, a sut y gallwn lunio’r weledigaeth gyffredin honno drwy’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Sut i gymhwyso Economïau Llesiant at bolisïau a strategaethau datblygu economaidd ar bob lefel i lunio eich economi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.