Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Gyfnewidfa Cymru. Mae rhestrau o ddigwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
6 Tachwedd 2024
9.00am – 9.55am
Ar-lein
Mae plentyn sy’n derbyn gofal gan rywun nad yw’n berthynas agos am fwy na 28 diwrnod yn byw mewn trefniant maethu preifat. Mae gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth o faethu preifat yn eu hardal. Mae CoramBAAF wedi gwrando ar aelodau ac wedi cysylltu â nhw ac mae’n falch iawn o gyhoeddi’r Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Maethu Preifat hwn.
Ymunwch ag Ann Horne a Clare Seth am Briff Brecwast mynediad agored am ddim – Cyflwyniad i Faethu Preifat.
BETH FYDDWCH CHI’N DDYSGU
Cydgysylltu gwasanaethau: Pam mae angen i weithwyr proffesiynol ar draws y gwasanaethau plant ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth ar gyfer y grŵp cudd hwn o blant agored i niwed.
Gwybodaeth allweddol am Faethu Preifat: Beth ydyw, a phwy yw’r plant mewn trefniadau maethu preifat.
Cyfrifoldebau gweithwyr gofal plant proffesiynol: Dysgu am rôl asiantaethau partner, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr maeth preifat wrth ddiwallu anghenion plant sy’n cael eu maethu’n breifat.
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.