ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Mark Riddell, Adran Addysg y DU

Blwyddyn: 2018

Crynodeb o’r Adroddiad:

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ymweliadau Mark Riddell ag awdurdodau lleol yn ei rôl fel y cynghorydd gweithredu cenedlaethol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn dilyn hynt Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017. Mae’n dathlu ei ganfyddiadau o’r hyn sy’n gweithio’n dda ac yn nodi ymarfer da sy’n ymwneud â darpariaeth ar gyfer ymadawyr gofal y bydd pob awdurdod lleol yn eu cael yn ddefnyddiol. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhai heriau allweddol y bydd angen i awdurdodau lleol fynd i’r afael â hwy er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson ar gyfer pobl sy’n gadael gofal sy’n adlewyrchu’n llawn yr egwyddorion rhianta corfforaethol y dylent fod yn eu hymgorffori ar draws gwasanaethau i bobl sy’n gadael gofal.