Plant yng Nghymru yn lansio canfyddiadau eu 6ed arolygon Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd. Mae’r adroddiad hwn yn rhannu profiadau a barn ymarferwyr a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda mwy na 41,500 o blant a theuluoedd ledled Cymru, a hefyd, yn bwysig, mae’n clywed lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc eu hunain.

“Gorfod symud, Mam yn methu talu’r biliau. Dim digon o fwyd. Ar fy mhen fy hun llawer er mwyn i Mam gael gweithio” (10-13oed)

Adroddodd mwyafrif llethol (94%) o’r ymarferwyr a’r gweithwyr proffesiynol fod y sefyllfa o ran tlodi wedi gwaethygu, ac roedden nhw’n credu ein bod bellach ar lefel “gritigol” a bod llawer o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn “argyfwng llwyr” ar hyn o bryd. 

Y prif faterion a godwyd oedd costau byw cynyddol; dyled; tlodi bwyd a thanwydd a chynnydd dramatig o ran iechyd meddwl gwael. Caiff llawer o ganfyddiadau’r ymarferwyr eu hadleisio yn yr arolwg plant a phobl ifanc, lle maen nhw’n trafod teimladau “trist” a “phryderus”; bwlio ac ynysu cysylltiedig â thlodi; bod yn llwglyd; ac anghydraddoldeb ym myd addysg.

Dywedodd Karen McFarlane, Swyddog Polisi ar gyfer Tlodi ac awdur yr adroddiad:

Mae tua 34% o blant a phobl ifanc Cymru yn awr yn byw mewn tlodi. Gall effeithiau tlodi fod yn bellgyrhaeddol a chyffwrdd â phob agwedd ar fywydau plant. Y funud hon, wrth i chi ddarllen, mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn gorfod penderfynu bwydo eu plant neu ddefnyddio trydan. Nid yw’n syndod, felly, bod y canfyddiadau’n dangos mwy o ddyled, tlodi bwyd a thanwydd, a chynnydd dramatig o ran iechyd emosiynol gwael, nid ymhlith rhieni’n unig, ond hefyd ymhlith plant a phobl ifanc eu hunain“.