Ar 12fed Mawrth 2019, cynhaliodd ExChange Wales cynhadledd gyntaf y flwyddyn; ‘Amser am Newid: GwellaGofal a Chefnogaeth i Bobl ag Anableddau Dysgu’, ynLlancaiach Fawr Manor ym Mwrdeistref Sir Caerffili.

Cadeiriwyd y diwrnod gan Sian Davies, Pennaeth RhaglenniStrategol Mencap Cymru.

Dechreuodd y bore gyda chyflwyniad gan ein siaradwr cyntaf, Dr Sara Ryan, ymchwilydd o Brifysgol Rhydychen. 

Cyflwyniad: Heriau a sialensiau cyfredol o fewn ymchwil ac ymgyrch anabledd dysgu

Yn ei chyflwyniad, siaradodd Dr Sara Ryan am ei thaith o’rbyd academaidd i’r byd ymgyrchu ar ôl marwolaeth ei mabConnor tra roedd yng ngofal y wladwriaeth. Siaradodd ynangerddol am y gwersi y dylid eu dysgu o’r camgymeriadau a wnaed a sut mae ymladd dros gyfiawnder yn effeithioteuluoedd sydd wedi colli rhywun agos.

“Pan mae eich plentyn yn marw yng ngofal y wladwriaeth, rydych yn gorfod ail-fyw’r peth drosodd a throsodd yn ystod y broses gwest.”

Amlinellwyd canfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol ifarwolaethau pobl ag anabledd dysgu 2011-2015 yngnghyflwyniad Dr Ryan; ar gyfartaledd gwelir bod pobl ag anableddau dysgu yn marw 16-18 mlynedd cyn eu cyfoedion. Ar ôl tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 2% o’r erthyglau a gyhoeddwyd mewn newyddiaduron 2010 ‘Anableddau ac Astudiaethau’ oedd yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, daeth Dr Ryan â’i sgwrs i ben trwy bwysleisio’r angen i’rrheini ag anableddau dysgu gael eu cynnwys mewn ymchwiltrwy nodi ‘mae gwneud yn siŵr bod samplau ymchwil ynamrywiol yn bwysig. Peidiwch ac eithrio unrhyw un o’chsamplau’. 

Cyflwyniad: Iechyd corfforol a meddyliol teuluoedd sy’n bywgydag oedolyn ag anableddau dysgu

“Yn y DU mae dros 35% o oedolion ag anabledd dysgu ynbyw gyda theulu neu ffrindiau”

Y siaradwr nesaf oedd Dr Jillian Gray o CASCADE ymMhrifysgol Caerdydd. Trafododd Dr Gray sut mae teuluoeddsy’n gofalu am oedolion ag anableddau dysgu yn aml ag iechyd gwaeth na chyfoedion sydd ddim yn gofalu am rywun. Pwysleisiodd yn ei hymchwil fod 56.6% o ofalwyr yn dioddefo iselder neu bryder a’i bod hi mor bwysig i deuluoeddgofalwyr gael digon o adnoddau a chefnogaeth iechyd ermwyn gweithredu strategaethau ymdopi i ddatrys problemau.

Fideo: Symud ymlaen yn dda

Cyn yr egwyl gyntaf, bu ein cynrychiolwyr yn gwylio fideo‘Symud ymlaen yn dda’ a ddarparwyd gan Vale People First.

Cymerwch gip ar fideos Vale People First yma 

Parhaodd y trafodaethau brwd yn ystod yr egwyl goffi. 

Cyflwyniad: Cefnogi cyflogaeth a hyfforddiantgalwedigaethol i bobl ag anableddau dysgu

Ar ôl cinio siaradodd Andrea Meek o Ysgol FeddygaethCaerdydd ar waith a hyfforddiant â chymorth i bobl ag anableddau dysgu. 

“Mae pobl ag anableddau dysgu’r hawl a’r gallu i weithio!”

Siaradodd Andrea am y rhwystrau niferus i gyflogaeth i’rrheini ag anableddau dysgu gan gynnwys derbyn cefnogaeth, mynediad i’r farchnad lafur a theithio. Soniodd hefyd am werth lleoliadau gwaith go iawn gyda chynwysoldeb go iawnac arian go iawn.

Yna aeth Andrea ymlaen i grynhoi’r prosiect Engage to Change sy’n ceisio creu a chefnogi cyfleoedd cyflogaethieuenctid tymor hir trwy gysylltu pobl ifanc â chyflogwyr. Mae 460 o bobl wedi cael eu cyfeirio at y prosiect dros y 2.5 mlynedd diwethaf gydag 82% o gyflogwyr yn nodi y byddentyn cyflogi unigolyn ag anableddau dysgu yn y dyfodol gyda’rgefnogaeth gywir. 

“Nid wyf yn filwr dros ein gwlad ond rwy’n filwr i bobl ag anableddau dysgu”

Cyflwyniadau: Straeon o brofiad: ein teithiau

Yr awr ganlynol, clywsom ‘straeon o brofiad’ gan aelodau o Vale People First a Hijinx Theatre. 

Cawsom ein cyflwyno i Sam ac Alex sy’n priodi eleni. Siaradon am eu bywydau, dod o hyd i gariad a gweithio i Vale People First. Mae Sam wedi profi llawer o heriau yn eibywyd, ac ar ôl iddi ddarganfod Vale People First, llwyddoddi gwrdd â phobl a oedd yn gofalu amdani a chymryd eiphryderon o ddifrif. Rhannodd Sam ac Alex eu prifgynghorion ar gyfer gweithio gyda’r rhai ag anableddaudysgu, megis sicrhau bod dogfennau’n ‘hawdd eu darllen’. Gweld eu cyflwyniad yma.

“Adeiladu ymddiriedaeth, bod yn amyneddgar, yn gynhwysol, yn hygyrch a gadael iddyn nhw siarad drostyn nhw euhunain.”

Nesaf, cawsom gwrdd ag Amy ac Amanda, dau riant ag anableddau dysgu a sefydlodd grŵp rhieni i ddarparucefnogaeth i helpu rhieni eraill. Ysgrifennodd Amy ac Amanda ganllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’ngweithio gyda rhieni ag anableddau dysgu. Eu negesallweddol oedd

“Peidiwch â rhagfarnu rhieni ag anableddau dysgu”

Yn olaf, siaradodd aelodau o Theatr Hijinx. RhannoddRichard a Tom sut mae actio wedi siapio eu bywydau. Yrangen am integreiddio yn hytrach na ‘labeli’ oedd y brifneges, gyda Richard yn cloi,

“Rhowch y person o flaen y label, nid y label gerbron y person”

Cyflwyniad: Pobl ag anableddau dysgu, cynhwysiant ac ymchwil

Siaradwr olaf y dydd oedd yr Athro Ruth Northway o Brifysgol De Cymru. Siaradodd Ruth Northway am bobl ag anableddau dysgu, cynhwysiant ac ymchwil, gan amlinellu sutmae’r rhai ag anableddau dysgu yn aml wedi’u heithrio o ymchwil. Nodwyd rhwystrau ar gyfer cynhwysiant felrhagfarn a stereoteipiau, defnyddio iaith a’r ffyrddtraddodiadol o wneud ymchwil.

“Nid yw barn a phrofiadau’r rheini sy’n anabl yn cael euhadlewyrchu mewn ymchwil”

Daeth i’r casgliad bod dadansoddi data ymchwil gyda chyd-ymchwilwyr ag anableddau dysgu yn caniatáu gwelldealltwriaeth o’r canfyddiadau ond roedd gwneud y broses ynhygyrch ac adeiladu i gryfderau unigolyn yn hanfodol.

Mae ExChange Wales yn diolch i’n cadeirydd, yr hollgyflwynwyr a chynrychiolwyr am gymryd yr amser ifynychu’r gynhadledd hon a chyfrannu ati.

Gellir dod o hyd i’r holl adnoddau ar ein gwefan trwy glicio ary dolenni uchod ac i gael mwy o wybodaeth o’r diwrnod, edrychwch ar #TimeForChange ar Twitter.