Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Mercher, 28 Medi 2022
19:00 – 20:30 
Digwyddiad ar-lein
£5

Dyma ddigwyddiad gofal maeth ar-lein lle bydd cyfle i wylio ffilm a rhannu arfer gorau gyda’r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector gofal. Felly, os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal, neu’n rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae’r digwyddiad hwn i chi!

I ddechrau, bydd ffilm fer o’r enw ‘Be-Longing’ yn cael ei dangos. Mae’r ffilm wedi ennill sawl gwobr ac yn adrodd stori Khoji, bachgen 9 oed sy’n derbyn gofal ac yn byw gyda theulu maeth. Ar ôl y ffilm, bydd trafodaeth ynghylch gofal maeth a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr. Wedi hynny, bydd cyfle i rwydweithio er mwyn rhannu arfer gorau a helpu gweithwyr proffesiynol i roi’r gofal gorau posibl. Bydd modd holi cwestiynau ac ystyried sut y gallwn ymgyrchu i wella gofal a pholisïau gofal yn y dyfodol.

Bydd siaradwr arbennig yn ymuno â ni – Matthew Page, sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yn rhaglen ‘DNA Family Secrets’ y BBC (cyfres 2, episod 5 ar BBC iPlayer), cylchgrawn Fostering Families a chylchgrawn The Fostering Network (Medi 2022). Bydd yn trafod y newid o fod mewn gofal maeth i ddod yn ofalwr a ‘DNA Family Secrets’.

I gael rhagflas o ‘Be-Longing’, cliciwch y ddolen Vimeo isod.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.