Yn y blog hwn mae Richard Devine yn rhoi crynodeb o erthygl Gan Juan Usubillaga, Clive Diaz & Donald Forrester

Sut caiff polisïau eu gweithredu mewn gwasanaethau plant? Datblygu theori rhaglen gychwynnol i werthuso’r broses o weithredu’r canllawiau newydd ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yng Nghymru.


Mae cyfoeth o bolisïau, canllawiau a chyfreithiau mewn gwaith cymdeithasol yn arwain arferion rheng flaen. Yn rhyfeddol, nid oes llawer o ymchwil wedi’i gwneud i edrych ar sut caiff polisïau newydd eu rhoi ar waith ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd yn y DU.

Mae hyn yn hanfodol oherwydd er y gall polisi fod wedi’i seilio ar dystiolaeth ac ymchwil drylwyr a bod yn llawn bwriadau da, mae’n dibynnu ar staff rheng flaen i’w weithredu’n effeithiol er mwyn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.

Y tu allan i faes gwaith cymdeithasol, mae ymchwilwyr wedi archwilio dulliau ar gyfer gwerthuso’r broses o weithredu polisïau. Un ffordd o asesu llwyddiant y broses gweithredu polisïau yw ystyried canlyniadau, megis derbynioldeb, priodoldeb, cywirdeb, a dichonoldeb. Mae ffactorau eraill i’w hystyried hefyd, y gellir eu crynhoi mewn tri chategori eang:

Ffactorau cyd-destunolArgaeledd adnoddau, cyllid, lefelau staffio, arolygiadau
Ffactorau sefydliadolHinsawdd a diwylliant sefydliadol, gan gynnwys llinellau cyfathrebu, agwedd staff at newid ac arloesedd, arweinyddiaeth
Ffactorau unigolDiddordeb personol yn y polisi, hunanhyder i weithredu newidiadau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r polisi

Ein hastudiaeth yw un o’r cyntaf o’i math i archwilio’r broses o weithredu polisi newydd ym maes gofal cymdeithasol plant. Gwnaethom edrych ar ganllawiau Diogelu plant rhag camfanteisio rhywiol yng Nghymru. Roedd gennym ddiddordeb mewn sut a pham mae’r canllawiau yn cael eu rhoi ar waith neu ddim yn cael eu rhoi ar waith.

Er mwyn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd, rhaid i ni feddwl am y ffordd orau o drosi canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i newidiadau go iawn mewn arferion rheng flaen sy’n cyfateb â’r canllawiau.

Yn ein hastudiaeth, gwnaethom gyfweld â 23 o reolwyr ac ymarferwyr amddiffyn plant am eu profiadau yn rhoi’r canllawiau ar waith. Dyma ein canfyddiadau:

Yn gyntaf, bu ymarferwyr yn trafod pwysigrwydd gwaith aml-asiantaeth er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o arferion da a disgwyliadau.

Yn ail, er bod y canllawiau’n berthnasol i Gymru gyfan, aeth pob awdurdod lleol ati i roi’r canllawiau ar waith yn wahanol. Er enghraifft, mewn un awdurdod lleol, creodd uwch-reolwyr grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys sawl rheolwr. Mewn awdurdod lleol arall, y rheolwyr eu hunain oedd yn gyfrifol am rannu’r wybodaeth ag ymarferwyr.

Roedd y rhai a oedd yn arwain yn tueddu i fod yn rhai oedd â diddordeb personol mewn Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Er bod hyn yn gadarnhaol, mae’n dangos i ba raddau y mae’r gwaith o roi canllawiau cenedlaethol ar waith yn ddibynnol ar ymarferwyr unigol.

Yn drydydd, ac yn gysylltiedig â’r ail bwynt, pwysleisiodd ymarferwyr bod y modd sut caiffnewidiadau i bolisïau a chanllawiau eu cyfleu yn gwneud gwahaniaeth mawr. O ystyried bod y canllawiau dros gant o dudalennau o hyd, credwn fod yn rhaid ystyried rhoi amser i ymarferwyr rheng flaen ddarllen y ddogfen, neu sicrhau bod y canllawiau ar gael mewn ffyrdd hygyrch a hawdd eu darllen.

Yn bedwerydd, soniodd ymarferwyr am bwysigrwydd diwylliant cefnogol er mwyn helpu pobl i ddeall ac ymgorffori’r canllawiau yn llawn.

Yn bumed, ac yn drawiadol, braidd, nid oedd y rhan fwyaf o’r rhai gafodd eu cyfweld yn ymwybodol o’r canllawiau. O’r rhai a oedd yn gwybod am y canllawiau, roedd rhai yn credu eu bod eisoes yn cyd-fynd ag arferion sy’n bodoli eisoes ac felly nid oeddent yn ystyried eu bod yn cynnig unrhyw beth newydd.

Yn chweched, roedd y canllawiau cenedlaethol mewn rhai awdurdodau lleol yn mynd yn groes i bolisïau lleol. Er enghraifft, roedd y canllawiau cenedlaethol yn argymell peidio â defnyddio adnoddau penodol. Fodd bynnag, mewn un awdurdod lleol roeddent wedi datblygu adnodd yn ddiweddar, ac wedi gwneud llawer o waith i’w roi ar waith.

Felly, gan gymryd yr ymchwil ynghylch gweithredu a chanfyddiadau’r astudiaeth hon at ei gilydd, beth yw’r hyn y gallwn ei ddysgu?

Gellir crynhoi’r canfyddiad pwysicaf mewn ychydig eiriau: mae cyfathrebu’n bwysig!

Mae cyfathrebu rhwng datblygwyr canllawiau cenedlaethol a’r rhai sy’n gyfrifol am eu gweithredu ar lefel leol yn lliniaru’r risg o wahaniaethau sylweddol mewn arferion rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Mae cyfathrebu rhwng uwch-reolwyr a staff rheng flaen ynglŷn â’r canllawiau yn helpu i sicrhau bod y canllawiau’n cael eu lledaenu ar draws y sefydliad yn effeithiol. Dylid cyflwyno canllawiau i staff rheng flaen mewn ffordd sy’n ystyriol o’u rôl brysur a beichus, yn enwedig pan fydd y canllawiau’n gymhleth neu’n hir. Ac mae cyfathrebu rhwng asiantaethau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan wahanol sefydliadau ddealltwriaeth gyffredin.

Canfyddiad allweddol arall yw bod angen i ni ganolbwyntio mwy ar sut y gallwn gefnogi’r broses o roi polisïau ar waith. Mae gwaith cymdeithasol yn llawn polisïau, canllawiau, a gweithdrefnau newydd, ond nid ydym wedi treulio llawer o amser yn ystyried sut y gallwn helpu i sicrhau bod y rhain yn gwneud gwahaniaeth.

Credwn y bydd ein canfyddiadau’n dwyn ffrwyth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dadansoddi neu wella’r ffordd y mae canllawiau polisi, neu yn wir unrhyw fath o ganllawiau, yn cael eu cyflwyno i’r bobl y lluniwyd y canllawiau ar eu cyfer.