Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Bob nos Iau yn ystod tymor yr Hydref 2022
Theatr y Sherman, Caerdydd
Cynllun sy’n rhad ac am ddim

Mae grŵp Cyflwyniad i ysgrifennu Dramâu yn cwrdd yn wythnosol y tymor hwn i ddatblygu sgiliau a magu hyder wrth ysgrifennu dramâu. Byddwch chi’n cael eich tiwtora gan awduron blaenllaw gwadd sy’n gweithio yn y diwydiant, ac mae’n rhoi’r cyfle i’r gwaith gael ei berfformio gan bobl greadigol broffesiynol yn y theatr. 

Dyma raglen wych sy’n cael ei chynnig YN RHAD AC AM DDIM i unrhyw un sy’n dymuno cofrestru, a hynny yn sgîl cyllid gan Moondance.  

Er bod y tymor eisoes wedi dechrau, mae rhywfaint o le ar gael i bobl gofrestru! 

Os ydych chi’n adnabod rhywun, neu’n gwybod am rywun a hoffai gofrestru neu sydd eisiau rhagor o wybodaeth, ebostiwch ITP@shermantheatre.co.uk.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.