Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2021, lansiodd Become brosiect grŵp newydd — Sky’s the Limit — i ailgynllunio ‘gadael gofal’ a chynnig gweledigaeth ffres a dyheadol ar gyfer sut y dylai’r system ofal fod yn cefnogi oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Darparodd prosiect Sky’s the Limit gynfas gwag i 11 o bobl ifanc â phrofiad gofal rannu eu gwybodaeth, eu hatgofion, eu gobeithion a’u breuddwydion a chreu gweledigaeth lle na ddaeth gofal i ben yn sydyn ond parhaodd i’w helpu i gyrraedd eu potensial a byw bywydau hapus a llwyddiannus.
Wedi’i lywio gan y mewnwelediadau hyn, dyluniodd Become weledigaeth newydd o gefnogaeth i oedolion ifanc â phrofiad o ofal #EndTheCareCliff
Sylwer: Mae’r holl ddogfennau a dolenni yn Saesneg.
Darllen mwy am:
Darllenwch y post gwreiddiol gan Become , yr elusen ar gyfer plant mewn gofal a’r rhai ifanc sy’n ei adael.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.