Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol gan Leicestershire Cares. Darllenwch y post yma.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Leicestershire Cares ganfyddiadau asesiad cyflym o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc agored i niwed yng Nghaerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland.

Ymgynghorodd eu tîm Plant a Phobl Ifanc ag 20 o bobl ifanc o bob rhan o’n prosiectau ieuenctid i weld a oedd costau byw cynyddol yn effeithio arnynt a sut, effaith costau ynni cynyddol yn benodol, pa gymorth (os o gwbl) yr oeddent wedi’i dderbyn, a beth roedd eu pryderon am y dyfodol.

Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod yr argyfwng costau byw eisoes yn effeithio’n aruthrol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc. Soniodd y cyfranogwyr am hepgor prydau bwyd, cael trafferth i fforddio biliau, straen cynyddol oherwydd eu cyllid a phryder sylweddol am gynnydd pellach mewn prisiau ynni a bwyd. Roedd rhieni ifanc yn arbennig o agored i niwed, ac yn disgrifio eu pryderon ynghylch darparu ar gyfer eu plant.

Dywedodd Sophie a Bronwyn, dau berson ifanc yn Leicestershire Cares:

“Mae prisiau bwyd yn codi ac mae ceisio ymdopi’n anodd gyda dim ond £40 i’w wario dros gyfnod o 3 wythnos. Mae’n bwysig bod cymorth yn cael ei gyflwyno fel nad yw pobl ifanc yn dioddef a’u bod yn gallu byw ansawdd bywyd gwell”

Dywedodd Charlotte Robey-Turner, Pennaeth Plant a Phobl Ifanc yn Leicestershire Cares:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr effaith feddyliol, emosiynol a chorfforol y mae’r argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar y bobl ifanc mwyaf bregus yn ein dinas a’n sir, a’r disgwyl yw y bydd yn gwaethygu. Dywedodd llawer o’n pobl ifanc wrthym eu bod yn cael trafferth byw o ddydd i ddydd, a’u bod yn hynod bryderus ynghylch beth fydd eu sefyllfa ariannol yn y misoedd nesaf.”

“Er ein bod yn croesawu cap y llywodraeth o £2,500 y flwyddyn ar brisiau ynni am y ddwy flynedd nesaf, yn realistig ni fydd y cap yn gwneud llawer o wahaniaeth i’n pobl ifanc, gan y byddai bil o dros £200 y mis yn dal i fod yn faich enfawr i’n cyfranogwyr ei dalu (i rai, byddai’n gynnydd o hyd at saith gwaith). Os na fydd cymorth pellach, mwy ystyrlon yn cael ei gyflwyno’n gyflym, bydd pobl ifanc mewn perygl o droi at ddulliau eraill o’u cynnal eu hunain a’u teuluoedd. Mae llawer o’n pobl ifanc wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu, prin yw eu rhwydweithiau cymorth, ac maen nhw’n agored iawn i gael eu meithrin gan gangiau lleol a gweithwyr llinellau cyffuriau.”

“Ein gobaith yw bod yr adroddiad hwn yn dangos bod angen camau gweithredu uniongyrchol ac eang i gefnogi pobl ifanc sydd mewn tlodi neu ar gyrion tlodi i oresgyn yr effeithiau andwyol y mae costau byw cynyddol yn eu cael ar eu bywydau nawr ac yn y dyfodol.”

Materion allweddol a godwyd gan bobl ifanc:

  • Mae cost bwyd yn bryder sylweddol i bobl ifanc agored i niwed. Roedd cyfranogwyr yr astudiaeth yn newid lle maen nhw’n siopa, gan ddefnyddio brandiau rhatach, hepgor prydau bwyd a mynd i dai perthnasau am swper (os oedd hyn yn opsiwn).
  • Roedd cost gynyddol trydan a nwy hefyd yn bryder sylweddol i bobl ifanc. Roedd cyfranogwyr yn sôn nad oedden nhw’n rhoi goleuadau ymlaen, yn osgoi coginio gyda nwy lle’r oedd hynny’n bosibl, coginio sypiau o fwyd, ac aros gyda ffrindiau/teulu i rannu adnoddau.
  • Roedd costau cynyddol yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, oherwydd straen am eu sefyllfa ariannol a’r pwysau ar eu teuluoedd. Roedd rhoi’r gorau i aelodaeth campfa a gweithgareddau cymdeithasol i arbed arian yn gwaethygu’r sefyllfa.
  • Roedd rhieni ifanc yn sôn pa mor anodd oedd fforddio cadachau a dillad babanod, ac yn ystyried ar ba bwynt y dylent hepgor prydau bwyd i sicrhau y gallai eu plant fwyta tri phryd y dydd.
  • Tynnodd pobl ifanc sylw at gostau ychwanegol byw ar eu pen eu hunain, gan fod eu gwariant unigol yn llawer uwch na rhywun a allai rannu biliau gyda chyd-letywr.

Y gefnogaeth a dderbyniwyd a’r gefnogaeth sydd ei hangen:

  • Doedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr ddim wedi derbyn unrhyw gymorth ar sut i reoli costau byw cynyddol. Roedd rhai wedi derbyn parseli bwyd neu wedi chwilio am gyngor ar y rhyngrwyd, ond roedd hyn yn gyfyngedig.
  • Roedd y taliad costau byw i’r rheini oedd ar Gredyd Cynhwysol yn ddefnyddiol, ond cyfaddefodd y rhan fwyaf nad oeddent wedi rhoi hwn i un ochr i dalu costau byw cynyddol. Roedd pobl ifanc yn teimlo y gallai ailgyflwyno’r codiad o £20 fod wedi eu galluogi i gyllidebu’n fwy effeithiol.
  • Roedd cymorth arall y gofynnwyd amdano’n cynnwys cyngor ar gynilo, cyllidebu a beth i’w wneud os na allwch chi fforddio bil, yn ogystal â chymorth gyda straen costau byw cynyddol.

Pryderon y dyfodol:

  • Roedd pobl ifanc yn bryderus iawn ynghylch faint y byddai costau byw ac ynni’n codi yn y misoedd nesaf, ac yn enwedig faint fyddai eu biliau dros y gaeaf.
  • Roedd y rheini oedd yn byw gyda’u teuluoedd yn poeni am y pwysau y byddai cynnydd mewn costau byw yn y dyfodol yn ei osod ar eu rhieni/gofalwyr, ac effaith hyn ar eu brodyr a’u chwiorydd.
  • Soniodd pobl ifanc hefyd am orfod mynd i fanc bwyd, anawsterau teithio i’r gwaith/coleg, a bod eu rhent a’u biliau’n dechrau mynd yn uwch na’r swm y maen nhw’n ei ennill bob mis.

Gallwch ddarllen canfyddiadau llawn yr asesiad yma.


Dysgwch am y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw hwn. Ymweld â’n Tudalen Ffocws Cael help gyda chostau byw.