Nod y dudalen ffocws hon yw cynnig deunyddiau i gefnogi teuluoedd a chymunedau trwy’r argyfwng costau byw hwn.

Mae’r dudalen hon yn cynnig gwybodaeth a dolenni i’r adnoddau canlynol:

  • Canllawiau Llywodraeth Cymru Cael help gyda chostau byw a Yma i helpu gyda chostau byw
  • Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru
  • Diogelwch yn y Cartref a Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Ymgyrch Llywodraeth y DU: Help i Aelwydydd
  • Ymgyrch Llywodraeth y DU: Costau byw
  • Wyth cymhorthdal addysg a chynllun i ddysgwyr
  • Gwasanaeth ‘Awr Argyfwng’ ACE:
  • Map o fanciau bwyd ledled Cymru
  • Cymorth a chyngor ychwanegol

Bydd y dudalen hon yn diweddaru’n rheolaidd wrth i fwy o adnoddau ddod ar gael i ni. Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf trwy ddilyn @family_wales ar Twitter a chofrestru ar gyfer ein Cylchlythyr.


Canllawiau Llywodraeth Cymru: Cael help gyda chostau byw

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod help a chyngor ar gael i’ch cynorthwyo. O gostau byw, tai, a budd-daliadau, i gostau ysgol a gofal plant a iechyd a lles.

I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein blog Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ynghylch ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n dwyn yr un enw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw Yma i helpu gyda chostau byw. Nod yr ymgyrch yw tawelu meddyliau pobl Cymru drwy roi gwybod iddynt bod cymorth a chefnogaeth ar gael i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw.

Rydym hefyd yn eich cynghori i wirio beth mae eich awdurdod lleol yn ei gynnig drwy fynd i’w gwefan.


Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru yn rhan o becyn cymorth tanwydd gwerth £90m i fynd i’r afael â’r pwysau costau byw.

O 26 Medi 2022 i 28 Chwefror 2023, mae’n bosib y bydd modd i gartrefi cymwys yng Nghymru hawlio taliad untro o £200 gan eu cyngor lleol i ddarparu cymorth tuag at eu costau tanwydd.

Gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol drwy eu gwefan pan fydd y cynllun yn agor ar 26 Medi 2022. Dod o hyd i’ch awdurdod lleol.


Gwasanaethau Diogelwch Cartref a Thân ac Achub

Gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio ar allu pobl i dalu eu biliau ynni cynyddol, mae pryderon wedi’u hamlygu am effeithiau posib pobl sy’n defnyddio dulliau amgen o wresogi eu cartrefi. 

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cynnig ystod eang o gyngor diogelwch i helpu i’ch cadw chi a’ch cartref yn ddiogel rhag tân a pheryglon eraill, ac yn cynnig ymweliad diogelwch yn y cartref i’r rhai sydd ei angen. Bydd ymweliad yn cynnwys cyngor ac offer diogelwch yn y cartref am ddim fel larymau mwg a larymau carbon monocsid os oes eu hangen.    

Gallwch gysylltu â’r gwasanaethau heddiw drwy lenwi’r ffurflen arlein ar eu gwefannau (dolenni isod) neu drwy ffonio’r rhif rhadffon 0800 1691234. 


Ymgyrch Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Help i Aelwydydd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio’r ymgyrch Help for Households, sy’n cyfuno gwybodaeth am y pecynnau cymorth mae wedi’u rhoi ar waith i helpu i liniaru effaith yr argyfwng costau byw.  Mae 41 o gynlluniau ar gael i gefnogi dinasyddion, ac mae pob un ohonynt i’w gweld yn y categorïau canlynol.


Ymgyrch Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Costau byw

Y nod yw sicrhau bod miliynau o aelwydydd sy’n agored i niwed yn cael o leiaf £1,200 gan y Llywodraeth eleni i helpu i dalu am gostau cynyddol. Mae taliadau penodol i’r rhai sydd ar fudd-daliadau prawf modd, i bensiynwyr, i’r rhai sydd ar fudd-daliadau anabledd ac i helpu pobl gyda biliau ynni. 

Rhagor o wybodaeth
Gwirio a ydych yn gymwys
Sut mae gwneud cais am y Taliad Costau Byw


Gall dysgwyr wyth grant a chynllun addysg fod yn gymwys ar gyfer:

  1. Gall dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am grant tuag at wisg ysgol, teithiau ysgol, a chyfarpar. Mae’r grant eleni yn £225 i bob dysgwr, neu £300 i’r rhai sy’n cychwyn ym mlwyddyn 7, i gydnabod y costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.
  2. Gallai pobl ifanc 16 i 18 oed sydd am barhau mewn addysg fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.Taliad wythnosol o £30 yw hwn i helpu gyda chostau addysg bellach fel trafnidiaeth neu brydau bwyd. Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru fwy o wybodaeth am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a sut mae gwneud cais amdano.
  3. Os ydych yn astudio addysg bellach yn eich ysgol leol neu eich coleg lleol, efallai y gallech gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth. Bydd gan eich awdurdod lleol neu eich coleg fwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut mae gwneud cais am gymorth.
  4. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy’n mynychu’r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys disgyblion meithrin llawn amser mewn ysgolion, hyd at ddisgyblion chweched dosbarth yn yr ysgol. Mae angen i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim, felly mae’n bwysig gwirio a allech chi fod yn gymwys. Gallwch wneud hyn ar wefan eich awdurdod lleol.
  5. Fel rhan o’r cynllun Caru Darllen Ysgolion bydd pob disgybl 3-16 oed yng Nghymru sydd mewn ysgol wladol yn derbyn llyfr iddynt eu hunain i’w gadw. Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun drwy ddarllen ein blog Lansio rhaglen Caru Darllen Ysgolion.
  6. O fis Medi 2022, bydd adnodd e-ddysgu newydd yn cael ei dreialu ar gyfer plant 16 i 18 oed sy’n mynychu ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg llafar. Bydd mynediad at wersi Cymraeg am ddim gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  7. Gallwch gael trwydded Microsoft Office 365 am ddim trwy Hwb. Gwefan yw Hwb sydd â llawer o apiau a meddalwedd am ddim sy’n helpu disgyblion Cymru i ddysgu. Mae gan bob athro a dysgwr gyfrif Hwb sy’n rhoi mynediad iddyn nhw at adnoddau addysgol ac offer digidol.
  8. Mae’r Gronfa Ariannol wrth gefn yn cefnogi dysgwyr cymwys mewn sefydliadau addysg bellach neu’r Brifysgol Agored, sy’n wynebu anawsterau ariannol neu y gallai eu mynediad at addysg bellach gael ei gyfyngu gan ystyriaethau ariannol. Bydd pob sefydliad yn penderfynu ar gymhwysedd dysgwyr a pha gymorth gallan nhw ei ddarparu.  Gall y rhai a hoffai wneud cais am gymorth gael rhagor o wybodaeth gan eu coleg, neu gan y Brifysgol Agored.

Dysgwch ragor am y cymorthdaliadau a’r cynlluniau hyn drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru Cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr a’u teuluoedd.


Gwasanaeth ‘Awr Argyfwng’ ACE:

Mae hwn yn wasanaeth sy’n cynnig cefnogaeth argyfwng ar unwaith

Bydd y gwasanaeth (sy’n dechrau ddydd Llun 17 Ionawr) yn cael ei gynnal yn ddyddiol yn Dusty Forge, Caerdydd rhwng 9am a 10am. Does dim angen apwyntiad ac os byddwch chi’n troi i fyny rhwng yr amseroedd hyn fe gewch eich gweld. Gallwch hefyd gysylltu â’r swyddfa drwy ffonio 02920 003132 os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Nod yr apwyntiadau hyn yw sicrhau eich bod yn gallu bwyta a chadw’n gynnes.

Bydd ACE yn parhau i gynnig eu hapwyntiadau arferol am fwy o gymorth manwl ar ddydd Llun a dydd Iau rhwng 10am ac 1pm. Mae angen apwyntiadau ar gyfer y gwasanaeth hwn a gellir eu gwneud drwy gysylltu â’r swyddfa drwy ffonio 02920 003132.

Rhagor o wybodaeth.


Map o’r banciau bwyd ledled Cymru

Yma yn Teulu a Chymuned fe wnaethon ni greu map o’r banciau bwyd ar draws Cymru. Gwiriwch pa un 

Rydym hefyd yn argymell edrych ar yr apiau hyn yn eich ardal i’ch helpu i dorri costau bwyd:

Too good to go

Mae’r ap Too Good To Go yn gadael i gwsmeriaid brynu a chasglu Bagiau Hud o fwyd blasus o gaffis, bwytai, gwestai, siopau a chynhyrchwyr sydd ar fin mynd i wastraff oherwydd nad yw wedi’i werthu mewn pryd. Trwy’r ap hwn gall cwsmeriaid gael mynediad at y bwyd hwn am bris gwych yn uniongyrchol gan fusnesau.

Olio

Mae OLIO yn cysylltu cymdogion â’i gilydd ac â busnesau lleol fel y gellir rhannu bwyd dros ben, nid ei daflu. Gallai hyn fod yn fwyd sy’n agosáu at ei ddyddiad gwerthu mewn siopau lleol, llysiau cartref sbâr, bara gan eich pobydd, neu’r bwydydd yn eich oergell pan fyddwch chi’n mynd i ffwrdd. Gellir defnyddio OLIO hefyd ar gyfer eitemau cartref nad ydynt yn fwyd hefyd


Mae cymorth a chyngor ychwanegol ar gael drwy’r adnoddau canlynol:

  • Gall pecynnau band eang a ffôn rhatach / tariffau cymdeithasol weithredu fel rhwyd ddiogelwch i aelwydydd cymwys a allai fod yn cael trafferth fforddio’u gwasanaethau band eang neu ffôn symudol.  Pecynnau band eang a ffôn rhatach – Ofcom.
  • Mae Gweithredu Cenedlaethol ar Ynni yn cynnig cyrsiau i helpu aelwydydd gyda thlodi tanwydd, effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio a mwy.  Cadwch lygad ar ein Tudalen Digwyddiadau oherwydd byddwn ni’n hysbysebu rhai o’r cyrsiau hyn ac eraill yno.