Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Bydd y sesiynau bob nos Iau (gyda’r sesiwn gyntaf ar 15 Medi 2022)
Rhwng 7.30yh a 9.30yh
Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4YE
Mae rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman yn cynnig cyfle i bobl ifanc 15-18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Yn bwysicaf oll, mae’n le iddynt ddarganfod eu llais a’i rannu ag eraill. Rydym yn falch o gynnig hyn yn gyfan gwbl AM DDIM diolch i gefnogaeth gan the Moondance Foundation.
Mae ein sesiynau wythnosol yn annog ein pobl ifanc i brofi amrywiaeth o dechnegau a sgiliau ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu dramâu. Ar ddiwedd y tymor hwn bydd gwaith ysgrifennu’r bobl ifanc yn cael ei rannu mewn tymor byr o waith ar-lein a gyflwynir gan actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol.
E-bostiwch naill ai Isaac.hall@shermantheatre.co.uk neu itp@shermantheatre.co.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.