Nid yw gwaith cymdeithasol a datblygu cymunedol yn cydweddu bob amser, yn enwedig o ran lle ceir pŵer ac ‘arbenigwyr’ (Walker 2016). Mae dau ddegawd o ddylanwadau neo-ryddfrydol ar waith cymdeithasol wedi gwthio’r proffesiwn fwyfwy tuag at ‘broffesiynoldeb’ rheolwriaethol, ar wahân, yn hytrach nag undod ac actifiaeth.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi paratoi’r ffordd at ailuno gwaith cymdeithasol a datblygu cymunedol gyda ffocws ar ffyrdd perthnasol yn hytrach na gweithdrefnol o weithio ac ail-ymgysylltu â chymunedau. Fodd bynnag, mae perygl y gallai hon droi’n fenter i bobl fachu a chamfanteisio arni, un sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo cyfrifoldeb yn hytrach nag adnoddau a phŵer i gymunedau lleol.
Roedd y seminar hwn yn amlinellwyd agwedd benodol at ddatblygu cymunedol yn un o ardaloedd Caerdydd, sy’n seiliedig ar asedau a than arweiniad y bobl. Bydd yn cynnig naratif o ddatblygu cymunedol sy’n darlunio ei natur gymhleth, berthynol, greadigol a chynyddol. Nid yw’r fath agwedd yn cydweddu’n dda ag agweddau traddodiadol at gynllunio a gwerthuso mewn gofal cymdeithasol, sy’n yn aml yn ceisio rheoli a rhagweld yn hytrach na chanlyn y llif.
Caiff ffrwythau datblygu cymunedol ar sail asedau eu darlunio drwy’r enghraifft o brosiect treftadaeth sy’n cynnwys archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd. Roedd y seminar yn dod i ben gydag amlinelliad o agwedd adrodd straeon at werthuso’r fath waith sy’n canolbwyntio ar ddysgu yn hytrach na pherfformiad.
Cyflwynir gan: Dr Nick Andrews, Prifysgol Abertawe, Dr Oliver Davis, Prifysgol Caerdydd a David Horton, ACE Caerau Trelái.