Gwasanaethau ar-lein, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Mae iechyd meddwl a lles da yn bwysig, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Gyda’r cyfyngiadau newydd ynghylch cadw pellter cymdeithasol, mae symudiad wedi bod at ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein. Fodd bynnag, hyd yma, nid ydym yn gwybod y ffyrdd gorau i ddatblygu gwasanaethau ar-lein, na sut i addasu rhaglenni sydd wedi’u darparu wyneb yn wyneb o’r blaen fel eu bod yn llwyddiannus ar-lein. Mae angen ymchwilio i ddeall sut all ymyriadau symud i fod ar-lein, neu’n ddarpariaeth gyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb ac ar-lein), pa fodelau yr ystyrir eu bod yn gweithio fwyaf effeithiol, a pha ymagweddau sydd angen rhagor o ddatblygiad, addasiad a gwerthusiad. Mae’r astudiaeth newydd hon, a ariannwyd gan y rhwydwaith TRIUMPH yn bwriadu ymchwilio sut i ddatblygu rhaglenni ar-lein orau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae tîm o Brifysgol Caerdydd a Voices from Care Cymru yn gweithio gyda Rhwydwaith Maethu Cymru i wella gwasanaethau ar-lein er mwyn cefnogi iechyd meddwl a lles yn well.
Byddwn yn cyfweld ac yn rhedeg grwpiau ymgynghori gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr maeth, a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i ymchwilio i’w profiadau nhw o raglenni ar-lein, ac i ddeall beth maent eisiau gan wasanaethau ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ystyried y ffordd orau i ddatblygu neu addasu gwasanaethau, a darganfod pa fathau o raglenni yr hoffai cyfranogwyr eu gweld yn y dyfodol.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn ein galluogi i ddatblygu cyfres o ganllawiau ac egwyddorion i helpu llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr ynglŷn â llunio a/neu addasu rhaglenni i’w cynnig ar y we. Os ydych yn berson ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ofalwr maeth neu’n ymarferydd, ac yn awyddus i gyfrannu at ddatblygu gwasanaethau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl a lles, cysylltwch â ni i roi gwybod!
Rhiannon Evans
DECIPHer (Centre for Development, Evaluation, Complexity and Implementation in Public Health Improvement), Cardiff University
evansre8@cardiff.ac.uk
@1RhiannonEvans
Dawn Mannay
School of Social Sciences, Cardiff University
mannaydi@cardiff.ac.uk
@dawnmannay