Trwy gydol y pandemig, y cyfnod cloi a nawr cyfnod clo estynedig yn ein dinas frodorol, mae staff Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr cymunedol, cyngor a busnes i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae llawer o’r gweithgarwch hwn wedi cael ei gyflawni gan grwpiau bach sydd wedi ffurfio mewn ymateb i’r pandemig. Diffyg biwrocratiaeth, rheolau a chyfarwyddebau gweithio, ynghyd â brwdfrydedd, cymhelliant a chyswllt dynol y maen nhw i gyd wedi’u hwyluso gan y rhyngrwyd, sydd wedi hybu llawer o hyn. Ym mis Ebrill awgrymwyd y canlynol gennym:

“Y realiti yw bod digwyddiadau fel y pandemig yn gofyn am sefydliadau ystwyth, sy’n debyg i “gychod gwib” yn eu gallu i ymateb a gweithredu’n gyflym. Yn aml, mae awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol mwy o faint yn debyg i “agerlongau”. Unwaith maen nhw ar drywydd penodol, ni allant newid yn gyflym.”

Mae ymgyrch #BuildBackBetter, a lansiwyd yn ddiweddar gyda chefnogaeth 350 o arweinwyr busnes, grwpiau cymunedol a gwleidyddion, yn gyfle gwych i fyfyrio ar y profiad hwn a dysgu ohono. Fel nodwyd gennym yn “What’s so funny about peace, love and understanding?”

“Pan fydd ein gwleidyddion yn ymestyn y tu hwnt i’w diddordebau pleidiol ac yn dechrau ymgysylltu â phobl mewn ffordd ystyrlon, byddant yn darganfod bod y cyhoedd yn ffynhonnell doreithiog o syniadau, arbenigedd, sgiliau a phrofiad bywyd sy’n gallu arwain at wneud penderfyniadau mwy effeithiol.  Maen nhw’n gweld bod gan bobl farn gymysg – sydd weithiau’n anghyson – nad yw’n cydweddu’n berffaith â maniffesto ond mae’r rhan fwyaf yn fodlon cyrraedd rhyw fath o gyfaddawd.   Dyma pam mae sefydliadau megis Compass, yr RSA ac eraill yn sôn am gynghreiriau blaengar, adeiladu pontydd rhwng pobl ac annog twf democratiaeth o’r gwaelod i fyny.”

Mewn sawl ffordd mae’r cyfnod clo wedi amlygu problemau roeddem eisoes yn ymwybodol ohonynt. Anghydraddoldeb, tlodi plant, tlodi bwyd, tlodi yn y gwaith, amodau gwaith ansicr sydd hefyd, mewn rhai achosion, yn anghyfreithlon. Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, yr amgylchedd, gwasanaethau cyhoeddus dirywiedig, diffyg tai fforddiadwy a’r pryderon am iechyd corfforol a lles meddyliol oll dan sylw erbyn hyn.  Er gall fod amrywiaeth yn y pwyslais, mae’r holl bleidiau gwleidyddol yn siarad am “fargeinion newydd gwyrdd”, camau gan y llywodraeth i ysgogi’r economi, amddiffyn y tlodion a pham mae angen i ni greu cymdeithas mwy caredig a gofalgar.

Roedd llofruddiaeth George Floyd ddiwedd mis Mai a’r protestiadau a’r dadlau canlynol a sbardunwyd gan #MaeBywydauDuOBwys yn dwysáu’r teimlad ein bod wedi cyrraedd croesffordd dyngedfennol. Roedd rhaid unioni anghyfiawnderau hanesyddol; mae’r system sydd gennym ar hyn o bryd yn hynod annheg. Mae’n gwahaniaethu’n systemig yn erbyn pobl groendywyll wrth osgoi neu guddio sut mae wedi elwa o gaethwasiaeth, gwladychiaeth a hiliaeth.

Er bod llawer o bobl nodedig yn ein cefnogi ac yn penlinio, roedd eraill yn fwy pryderus. Roedd sôn am fraint pobl wynion a pheidio ag ariannu’r heddlu yn cael ei bortreadu gan rai enwebwyr fel eithafiaeth asgell chwith yn cuddio y tu ôl i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Wrth i gerfluniau gael eu dymchwel ac wrth i’r galwadau am ddymchwel mwy ohonynt gynyddu, roedd rhai’n gweld hyn fel ymosodiad ar hunaniaeth a hanes y DU. Wrth i bobl orymdeithio i amddiffyn cerfluniau Winston Churchill a rhannu cyfarchion Natsïaidd, roedd y gymuned fawr gynhwysol a allai ddod i gonsensws yn ymddangos fel breuddwyd bell.

Ac eto, yn ôl arolygon, dim ond 6% o Brydeinwyr sy’n awyddus i ddychwelyd i’r un economi ag yr oedd yn bodoli cyn argyfwng Covid-19. Yn lle hynny, mae pobl am ailadeiladu’n gryfach, yn wyrddach ac yn decach. Mae cryn gefnogaeth dros Mae Bywydau Du o Bwys, er nad o anghenraid ar gyfer rhai o’u dulliau. Felly, mae rhesymau i fod yn llon ac yn obeithiol. Byddem yn awgrymu y dylai “profiad bywyd a lleisiau” pobl leol fod wrth wraidd unrhyw newid, fel y byddan nhw’n llunio’r agenda ar gyfer sut dylai eu cymunedau ddatblygu. Wrth i ni ddechrau symud ymlaen, byddai’n dda gweld mwy o bwyslais ar y canlynol:

  • Prosesau penderfynu wedi’u datganoli’n fwy a rhoi mwy o bwerau i gynghorau benderfynu ar y ffordd orau i’w cymunedau a’u heconomïau lleol ddatblygu.
  • Ffurfiau creadigol o ddemocratiaeth ystyriol sy’n grymuso ac yn galluogi pobl leol i gymryd rhan, trafod, dadlau a dod i gonsensws.
  • Cymunedau, busnesau a llywodraeth leol yn datblygu timau a strwythurau ystwyth, creadigol sy’n gallu gwrando, dysgu ac addasu.
  • Mynegai hapusrwydd a lles y cytunwyd arno’n genedlaethol a ddefnyddir ar y cyd â’r Cynnyrch Domestig Gros i roi gwybod i ni pa mor dda rydym yn ei wneud.
  • Targedau llym a Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer dileu tlodi yn ei ffurfiau lu.

Wrth gwrs, mae llawer o faterion y mae angen mynd i’r afael â nhw ond os gellir gwreiddio prosesau penderfynu mewn cyd-destun lleol y mae pobl yn teimlo bod ganddynt gysylltiad ag ef a rheolaeth drosto, rwy’n credu’n gryf y byddwch yn llawer mwy tebygol o gyflawni newid. Mae angen i wleidyddion ac arweinwyr busnes a chymunedol weld mai eu diben cyffredin yw adeiladu cymunedau gwell. Mae hyn yn llawer mwy tebygol o ddigwydd os byddant yn gweithio mewn partneriaethau agored a thryloyw sy’n llawn parch lle byddan nhw’n derbyn bod ganddynt lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd ac mai’r ffordd orau o wybod beth yw dymuniadau’r bobl yw eu cynnwys yn weithredol yn eu prosesau penderfynu.

Mae’r pandemig wedi dangos yn glir beth yw cryfderau a diffygion ein heconomi a’n gwleidyddiaeth. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ond hefyd lawer y gallwn ni – a rhaid i ni – ei wella. Felly, gadewch i ni rymuso cymunedau a defnyddio eu creadigrwydd, eu caredigrwydd a’u gwybodaeth leol i #BuildBackBetter a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Kieran Breen
Prif Weithredwr Leicestershire Cares
@LeicsCares

Cyhoeddwyd y Blog hwn yn wreiddiol gan Vulnerability 360.

Dolenni defnyddiol

BuildBackBetter.org
What’s so funny about peace, love and understanding? (Thersa.org)
What is the response to the pandemic telling us about community development and the state of local government? (Vulnerability 360)
Cylchlythyr: Leicestershire Cares 12 weeks in (Leicestershire Cares)
Just 6 of UK public want a return to pre-pandemic economy(The Guardian)
Poll shows strong public support for BLM protests (Hope not Hate.org)