Mae lles yn brofiad cymhleth i’w fesur, ei ddiffinio, arsylwi arno a’i gyfleu. Roedd fy ymchwil yn defnyddio LEGO fel dull ymchwilio er mwyn archwilio prynhawniau Dydd Mercher Lles, sy’n fenter i gyflawni nod Iechyd a Lles Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022 mewn Ysgol Uwchradd Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau yn ne Cymru
Mae holiaduron a chyfweliadau’n tueddu i fesur effaith seicolegol o les dros amser. Ond nid yw’r mesurau hyn bob amser yn gallu ‘mesur yr anfesuradwy’ neu gofnodi’r profiad cymhleth o les. Hefyd, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn aml yn gyndyn i gyfathrebu, sy’n gwneud meithrin perthnasoedd rhwng ymchwilwyr a chyfranogwyr yn bwysig yn ogystal ag anodd ei gyflawni. Felly sut gellir annog pobl ifanc yn eu harddegau i siarad am eu teimladau?
Crëwyd LEGO Build to Express at y diben penodol hwn – fe’i defnyddir fel arfer mewn ystafelloedd dosbarth fel dull o gysylltu â myfyrwyr ynghylch syniadau haniaethol ac fel dull ymyrryd i ddisgyblion y gallai fod angen therapi arnynt. Yn aml mae’r syniad o LEGO fel tegan ar gyfer chwarae yn annog cyfranogwyr i gyffwrdd, adeiladu a chreu rhywbeth mewn modd organig, a hynny’n awtomatig. O fewn fformat cydnabyddedig sesiynau Therapi LEGO’r ysgol, gofynnais y cwestiwn ‘Sut rydych chi’n teimlo ar ddiwrnod arferol ac ar Ddydd Mercher Lles’ i grŵp o gyfranogwyr bodlon.
Roedd y cyfrwng yn galluogi disgyblion i gyfathrebu mewn trosiadau, fel a welir yn y delweddau canlynol.
Esboniodd yr adeiladwr ei fod fel arfer yn casáu’r ysgol – “Bydda i’n onest, dwi’n triwanta’n aml achos mod i ddim moyn cael fy nghyfyngu, fel y ffens. Dwi ddim moyn bod mewn gwersi 50 munud heb allu gadael’, wrth bwyntio i’r ffigur LEGO gyda ffens o’i amgylch. “Fi yw’r ysgol yn symud trwy wers gyfan ar ddydd Mercher ac yn aros yno achos mod i moyn gwneud hynny, achos mod i’n gallu gwneud beth dwi moyn ei wneud yn lle bod rhywun yn dweud wrtha i i wneud e.
“Dyma fi mewn gwers y Tiwtor, dwi’n ei chasáu. Dwi ar y soffa’n ffonio fy mam i ddod i fy nôl i. Mae’n gas ‘da fi pan fo’r tiwtor yn dweud wrtha i beth i’w wneud.” Caiff yr athrawes ei phortreadu mewn het gwrach gydag ysgub. Mae’r adeiladwr yn esbonio ochr arall ei fodel, sy’n llawn brics lliwgar a ffigurau LEGO sy’n eistedd o gwmpas bwrdd gyda’i gilydd. “Therapi LEGO yw hwn a dwi’n dwlu ar hwnnw achos ein bod yn gallu gwneud pethau celf a chwarae cerddoriaeth a chael hwyl gyda Syr. Dyma fy holl ffrindiau’n eistedd o gwmpas yr adeilad gyda fi.”
“Roedd Thomas yn niwsans mawr y bore ‘ma a dwedodd Syr fod rhaid i fi eistedd yno drwy gydol y wers gyda fe’n fy mhlagio gyda’i swn.” Yn groes i’r hunanreolaeth roedd yr adeiladwr yn ei theimlo yng ngwers y bore yma, fel a welir ar yr ochr dde, mae’n esbonio’r ffigur ar yr ochr chwith: “Dyma fi ar ôl i fi gael cinio ac fy mod yn gallu mynd i’m gweithgaredd heb fod Thomas yno.”
Mae model LEGO y myfyrwyr wahaniaeth nodedig rhwng y gwersi disymud, rhwystredig a chyfyngol trwy gydol yr wythnos a phwysigrwydd gwersi ymarferol sy’n amlwg yng ngweithgareddau Dydd Mercher Lles. Yma maen nhw’n dangos bod eu gallu i gael hunanreolaeth dros eu cyrff a’u gweithgareddau yn nodwedd bwysig o ddydd Mercher. Yn yr eiliadau hyn o ryddid cyffredin, mae myfyrwyr yn sylweddoli bod eu cyrff ar y cwricwlwm ac yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â chanlyniadau ac amcanion dysgu.. Trwy roi’r cyfle hwn iddynt reoleiddio eu hunain, rhyngweithio’n rhydd a defnyddio’r ystafell ddosbarth er eu lles nhw, maent yn dysgu bod ysgolion yn gallu bod yn lleoedd cyfannol ar gyfer lles.
Mae’r elfen greadigol sy’n rhan gynhenid o LEGO (sy’n deillio o’r ymadrodd Daneg leg godt sy’n golygu ‘chwarae’n dda’) yn ffordd hawdd ac effeithlon i gyfathrebu’n greadigol mewn sefyllfaoedd ymchwil. Roedd ystyried dulliau gweledol a’u gallu i roi hunanreolaeth i gyfranogwyr yn cyd-fynd â’r profiad cymhleth ac amrywiol o les yn yr ysgol hon. Er bod posibilrwydd na fydd modd gwneud hyn ym mhob ystafell ddosbarth, dyluniad ymchwil nac adolygiad cwricwlwm, mae’n dangos y gall ceisio barn a phrofiadau myfyrwyr fod yn fenter hwyliog a chreadigol sydd, yn y pen draw, yn dwyn boddhad.
Fel offeryn ac fel tegan, mae LEGO yn drysu’r ffiniau rhwng ymchwil a phrofiad, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cofio pwy sydd wrth wraidd cwestiynau ymchwil, newidiadau i’r cwricwlwm a pholisïau, a sut gall eu lleisiau gael eu clywed.
Alice Abrey
@AbreyComms