Mae prinder mawr cynhalwyr maeth yn Lloegr ac mae Prifysgol Caerwrangon wedi cynnal ymchwil i ddysgu pam nad yw pobl anabl yn cael eu dewis ar gyfer rôl cynhalwyr maeth.
Bydd y gweminar yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil gan gynnwys fideo fer sy’n disgrifio prif faterion moesegol ac ymarferol pwnc nad yw’n denu llawer o sylw ym maes cyfleoedd cyfartal.
Cynhaliodd y brifysgol yr ymchwil ar y cyd â rhwydwaith gwasanaethau i bobl anabl o’r enw Shaping Our Lives a Rhaglen Gydweithredol Gofal Maeth, gan astudio pedwar gwasanaeth maeth yn y sectorau statudol, preifat ac elusennol. Cynhyrchwyd y prosiect ar y cyd yn ôl dull ‘Ymchwil ar Waith’, gan newid polisïau ac arferion pan ddaeth materion i’r amlwg.
Fe roes un asiantaeth y gorau i’r prosiect ar ôl i’w rheolwyr newydd ddweud na fydden nhw o blaid parhau. Aeth y prosiect rhagddo rhwng 2018 a 2020 o dan nawdd DRILL (Disabled Research into Independent Living and Learning) a Chronfa Fawr y Lotri Wladol.
Gwelwyd bod sawl peth yn rhwystro pobl anabl rhag bod yn gynhalwyr maeth, er gwaetha’r ffaith bod gan lawer ohonyn nhw eu plant eu hunain ac amrywiaeth helaeth o fedrau perthnasol. Ymhlith y meini tramgwydd hynny mae rhagfarn proffesiynolion, diffyg eglurder am iechyd, prinder pobl i’w hefelychu ac ansicrwydd am hawl i fynnu budd-daliadau.
Roedd yn anodd ennyn diddordeb asiantaethau maethu a mudiadau pobl anabl mewn prosiect y gallen ni ei weld yn un lle y byddai pawb ar ei ennill – bydd pobl anabl yn cael dod o hyd i waith, bydd rhagor o drefniadau cartrefu ar gael i blant mae angen gofal arnyn nhw a bydd anawsterau denu cynhalwyr maeth yn llai o dipyn.
Cyflawnodd tîm yr ymchwil gynnydd ar draws y pedwar safle arbrofol a thrwy rhagor o sylw yn y cyfryngau, gan lwyddo i gyfweld 12 cynhaliwr maeth anabl sy’n dangos bod pobl o’r fath yn gallu llwyddo yn y rôl. Meddai Alison:
“… a minnau’n gynhaliwr maeth anabl, fyddwn i byth wedi disgwyl cael cyfle i ofalu am blentyn ac arno anghenion cymhleth. Roeddwn i’n disgwyl y byddai rhaid aros am sbel ac mai dim ond achosion hawdd fyddai ar gynnig ond dyw’r asiantaeth ddim wedi gwneud hynny a phob clod iddi.”
Meddai Jon:
“Mae dau o blant yn byw gyda fi ers bod yn fach iawn a dydyn nhw ddim yn gweld pobl anabl yn anarferol. Dyna fantais cynhwysiant – cydraddoldeb naturiol.”
Mae gobaith y bydd gweminarau megis menter ExChange yn helpu i ledaenu canfyddiadau’r prosiect ar draws y deyrnas. Trwy dynnu sylw at lwyddiant pobl megis Alison a Jon, dylai fod modd annog asiantaethau maethu a phobl anabl i fanteisio ar bosibiliadau helaeth cynhalwyr anabl. Mae Prifysgol Caerwrangon yn chwilio am arian i barhau â’r prosiect – mae corff maethu gwladol, CoramBAAF, wedi gofyn iddi lunio llawlyfr am gynhalwyr maeth anabl ac mae’n bwriadu cynnig hyfforddiant i asiantaethau maethu yn y maes hwn sydd heb ddenu llawer o sylw hyd yma.
Y Dr Peter Unwin, Prifysgol Caerwrangon, Becki Meakin, Shaping Our Lives