Meithrin Llesiant: Lens a Rennir

Daeth ymarferwyr gofal cymdeithasol ynghyd i ddysgu am raglen beilot Meithrin Llesiant, a’r gwaith ymchwil gwerthusol mae CASCADE yn ei gynnal.  Colin Turner, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu oedd y cyntaf i gyflwyno a siaradodd am raglen ariannu Llywodraeth Cymru. 

Llun o logo Meithrin Llesiant

Cyflwynwyd y peilot Meithrin Llesiant gan y Rhwydwaith Maethu mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf o 2017 i 2019.  Y nod oedd canolbwyntio ar wella canlyniadau llesiant ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  Diffiniwyd hynny fel diwallu pum angen sylfaenol plant: cymdeithasol, corfforol, emosiynol, diwylliannol a dysgu.  

Gan fod plant sydd â phrofiad o ofal ar hyn o bryd yn profi deilliannau cyffredinol waelach o gymharu â’u cymheiriaid mewn meysydd megis iechyd meddwl, troseddoldeb ac addysg – roedd y rhaglen hon yn cael ei gweld fel modd i helpu i fynd i’r afael â hyn.  Roedd hyn i ddigwydd trwy waith amlasiantaeth, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd, a grymuso pawb ym mywyd y plentyn i gael eu paratoi’n well i ddiwallu anghenion y plentyn.  Y gobaith oedd y byddai gweithio trwy lens a rennir yn creu lleoliadau sefydlog, fel bod plant â phrofiad o ofal yn cyflawni eu potensial. 

Pwynt allweddol a godwyd gan Colin oedd bod y rhaglen yn hwyluso gofalwyr maeth fel gweithwyr proffesiynol ar y cyd ym mywyd y plentyn.  Roedd hyn yn arwyddocaol – o ystyried y blynyddoedd posibl o brofiad sydd gan lawer o ofalwyr maeth i’w gynnig, gan mai nhw yw’r prif roddwr gofal ac yn treulio’r cyfnod mwyaf o amser gydag unrhyw un plentyn â phrofiad o ofal, o gymharu â gweithwyr proffesiynol eraill.  Syniad allweddol ym maes Meithrin Llesiant yw’r cysyniad o statws cyfartal i’r holl gydweithwyr proffesiynol, lle mae gan bawb rywbeth i’w gyfrannu, ac yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn cyflawni gwell deilliannau i’r plentyn.  

Sut mae’r rhaglen yn gweithio?

Cyflwynwyd fideo’r Rhwydwaith Maethu gan Colin, yn esbonio tri ‘llinyn’ craidd y rhaglen:

  • Pum dosbarth meistr. Mynychwyd y rhain gan ofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr proffesiynol o fyd iechyd a’r gwasanaethau troseddu ieuenctid.  Roedd hwn yn gyfle dysgu cyfartal i bawb, yn lle i ddeall rolau ei gilydd a rhannu arbenigedd.  Seiliwyd y dosbarthiadau meistr ar ddeg egwyddor addysgeg gymdeithasol, megis:
    • mae’n rhaid diwallu holl anghenion y plentyn, h.y. mae’n hanfodol deall ac ymateb i’r plentyn/person ifanc cyfan i wella ei (l)lesiant.
    • Mae annog dyhead ac uchelgais yn hanfodol wrth ddatblygu agweddau cadarnhaol
  • Arloeswyr. Cafodd gofalwyr maeth profiadol eu hyfforddi fel Arloeswyr i helpu i raeadru’r negeseuon sy’n cael eu dysgu trwy’r rhaglen.  Bu’r Arloeswyr yn siarad mewn digwyddiadau, yn ymweld ag ysgolion, ac yn rhedeg desg gymorth ar gyfer y cydweithwyr proffesiynol yn swyddfeydd tîm maethu’r awdurdod lleol.  Roedd y grŵp Arloeswyr hefyd yn cynnwys pobl â phrofiad o ofal, oedd yn gallu dod â’u profiadau personol at y bwrdd.  
  • Cynllunio Gwasanaeth.  Roedd hyn yn edrych ar weithredu’r rhaglen trwy newid gwasanaeth, dan arweiniad staff awdurdodau lleol mewn rolau strategol megis penaethiaid Gwasanaethau Plant a phrif swyddogion Addysg.   Lluniodd grŵp cynllunio strategol gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr gynlluniau gweithredu, gan greu amrywiol feysydd gwaith.  Soniodd rhai o’r swyddogion yn y fideo am obeithion i greu bywydau mwy llwyddiannus ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan roi iddyn nhw’r hyder i ddatblygu sgiliau i’r dyfodol, trwy wella eu llesiant emosiynol, a thrwy ofalwyr maeth sy’n cael gwell gwybodaeth a chefnogaeth.  

Yr ymchwil

Dr Alyson Rees oedd y nesaf i siarad, gan gyflwyno rhai o ganfyddiadau’r ymchwil gwerthusol.   

Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol am y dosbarthiadau meistr, a theimlai’r bobl eu bod yn cael eu calonogi gan y cysyniad o gael asiantaethau lluosog gyda’i gilydd yn yr un ystafell i siarad am blant sy’n derbyn gofal a maethu.  Gwnaeth rhai o’r cydweithwyr proffesiynol sylwadau bod gofalwyr maeth yn allweddol ym mywyd y plentyn, ac felly’n hanfodol i’r dosbarthiadau meistr.  Roedd clywed naratif personol gan bobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth yn bwynt dysgu pwerus i rai.  Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai nad oeddent yn ymwneud yn unig â phlant â phrofiad o ofal, fel athrawon – gyda rhai yn gwneud sylwadau ei fod wedi ehangu eu barn a chael effaith ar eu dull gweithredu.  Un o’r problemau, fodd bynnag, oedd lefel isel o bresenoldeb gan weithwyr cymdeithasol plant yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol. 

Ymatebodd yr Arloeswyr eu bod yn teimlo’n hyderus i gefnogi eraill gyda’r hyfforddiant unigryw a gawsant, ac yn teimlo’n fwy abl i eiriol ar ran y plentyn.  Ar adeg y gwerthusiad, doedd rôl yr Arloeswyr ddim wedi’i gweithredu’n llawn, gan ei bod wedi cymryd amser i’w sefydlu.  Argymhellodd yr astudiaeth fod modd estyn y nodwedd arloesol hon o’r rhaglen i ragor o ardaloedd yng Nghymru a’i gwerthuso ymhellach.  

Cafodd plant eu cynnwys yn yr astudiaeth drwy ddefnyddio blychau tywod a deunyddiau lluniadu i rannu teimladau am bobl yn eu bywydau, a beth oedd yn cyfrannu at eu llesiant.  Ymhlith yr ymatebion roedd: cyfeillgarwch, bwyd, rhai athrawon roedden nhw’n eu hystyried yn ‘garedig’ ac yn ‘barod i helpu’, a gweithwyr cymdeithasol oedd yn treulio amser gyda nhw ac yn gwrando arnyn nhw yn hytrach na ‘llenwi ffurflenni’ yn unig.  

Y drafodaeth

Daeth y mynychwyr ynghyd mewn grwpiau i drafod eu hymateb i’r cyflwyniadau, a soniodd rhai am eu profiad personol o fod yn rhan o’r rhaglen.  

Soniodd un ymarferydd am anhawster sicrhau bod rhai asiantaethau yn ‘prynu i mewn’, gan archwilio rheswm posibl am lefel isel o bresenoldeb gan rai.  Cafwyd bod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol ddim yn deall pam roedd angen iddyn nhw fod yn bresennol mewn cyd-destun maethu, ac felly roedd yn anodd sicrhau eu cefnogaeth.  Dywedson nhw ei fod weithiau’n help i nabod un person ar y brig, sy’n ymrwymo i’r rhaglen ac yn deall yn llawn beth yw’r manteision, er mwyn iddyn nhw fedru rhaeadru hynny i lawr trwy eu gwasanaeth a hwyluso cyfraniad mwy.  

Soniodd gweithiwr cymdeithasol y bydden nhw wrth eu bodd yn gwneud mwy o waith uniongyrchol gyda’r plant, yn treulio mwy o amser o safon gyda nhw, ond bod llawer o’r math yma o waith yn cael ei anfon allan at dimau ymylol y gwasanaeth, oherwydd problemau capasiti.  Mae gweithiwr cymdeithasol y plentyn, felly, yn cael ei weld fel rhywun sy’n ‘llenwi ffurflenni’ yn unig.  Gall y problemau capasiti hyn, sy’n gyfarwydd iawn, atal y gweithwyr cymdeithasol rhag dod i’r dosbarthiadau meistr yn ogystal.  Ymateb un cynrychiolydd oedd bod angen i rai newidiadau fod yn genedlaethol, gan mai dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud yn rhanbarthol i roi sylw i’r materion hyn.  

Cododd gweithiwr cymdeithasol arall y pwynt, er bod gofalwyr maeth yn bwysig ym mywyd y plentyn, eu bod yn dal heb y lefel o arbenigedd a fyddai gan weithiwr cymdeithasol dros gyfnod o lai o flynyddoedd, trwy weithio’n feunyddiol gyda llwyth achosion o blant sydd â phrofiad o ofal.  

I mi, fodd bynnag, roedd y pwynt hwn yn ategu’r syniad bod pawb yn gallu cyfrannu rhywbeth – mae gan bawb o’r cydweithwyr proffesiynol brofiadau gwahanol a gwybodaeth sydd ddim gan y lleill, ond y gallen nhw ddysgu oddi wrtho,  Mae’r rhaglen yn gyfle i gyfoethogi a grymuso pawb sy’n rhan ohoni trwy rwydweithio, gydag effaith gadarnhaol ar y plentyn sy’n derbyn gofal – ac mae hynny’n un nod cyffredin y gall yr holl gyfranogwyr fod yn unedig yn ei gylch a gweithio drosto gyda’i gilydd. 

I ddysgu mwy gallwch chi wylio’r Fideo a darllen y Cyflwyniadau

Ffyrdd Creadigol o Gynnwys Plant a Phobl Ifanc mewn Ymchwil ac Arfer

Ffyrdd Creadigol o Gynnwys Plant a Phobl Ifanc mewn Ymchwil ac Arfer

Hydref 2018

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno cefndir technegau gweledol, cyfranogol a chreadigol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn prosiectau ymchwil ac yn ymarferol. Bydd y gweithdy’n cyflwyno a thrafod amrywiaeth o astudiaethau mewn cyd-destunau gwahanol ac yn cynnig gweithgareddau ymarferol i roi cynnig ar ddulliau gwahanol o gynhyrchu ffurfiau gweledol ar ddata, a chynnal cyfweliadau canfod ffeithiau. Caiff cyfleoedd a chyfyngiadau dulliau cyfranogol eu hystyried a bydd y gweithdy’n cyflwyno nifer o dechnegau o gynhyrchu data creadigol, gan gynnwys darlunio, collage, blwch tywod, sticeri emosiwn, ffotograffau ffeithiau ac arteffactau. Bydd y gweithdy’n eich gwahodd i archwilio pa mor ddefnyddiol yw dulliau creadigol a sut y gallech eu defnyddio yn eich gwaith eich hun gyda phlant a phobl ifanc.

Gweithdai

Mae ein gweithdai’n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i ddatblygu ymarfer a gwybodaeth.

O adnabod i gefnogi: Asesu a gwella gwasanaethau i ofalwyr ifanc

Weithiau disgrifir gofalwyr teulu fel ‘byddin anweledig’ – grŵp mawr o ddinasyddion sy’n dwyn cyfran sylweddol o’r strategaeth gofal cymdeithasol genedlaethol. Mae gofalwyr plant, a elwir yn gyffredin yn ‘ofalwyr ifanc’, yn grŵp nad yw’n cael ei gydnabod yn ddigonol ac yn arbennig o agored i niwed o fewn y ‘fyddin’ hon. Mae’r polisi a’r arfer cyfredol ar gydnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn amrywiol ar draws Awdurdodau Lleol Cymru, ac mae lefel neu natur y gweithgaredd ymyrraeth yn cael ei archwilio’n bellach yn genedlaethol.

Mae gan y grŵp hwn anghenion sylweddol, amrywiol a phrofiadau gwahanol o aflonyddwch personol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a lefel y gofal sy’n ofynnol ar gyfer aelodau eu teulu. Gallai addysg ac iechyd gynnig cefnogaeth sylweddol i’r plant a’r bobl ifanc hyn ond mae ymchwil yn dangos eu bod ar hyn o bryd yn ei chael hi’n anodd eu hadnabod a’u cefnogi’n effeithiol, yn rhannol oherwydd diffyg arweiniad clir a chynllunio strategol, ac mae’r rhan fwyaf o ofalwyr ifanc yn nodi anawsterau wrth gael eu cydnabod amdanynt y gwaith gwerthfawr maen nhw’n ei wneud.  

Roedd gweithdy hwn yn canolbwyntio ar rannu gwybodaeth o ymchwil a mewnwelediad polisi a pholisi diweddar Prifysgol Caerdydd gan yr elusen genedlaethol Carer’s Trust Wales. Rydym yn hwyluso trafodaeth dan arweiniad ymarferwyr ar brofiadau cyffredin a gwahanol wrth geisio cefnogi gofalwyr ifanc orau, a chyd-ddatblygu dulliau ac argymhellion i wella darpariaeth Gymraeg.  Ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc fod dan anfantais yn eu bywydau trwy fod yn ofalwr ifanc.  

Gwnaeth y gweithdy hon cynnig cyfle i ychwanegu eich profiad a’ch arbenigedd at y sgwrs genedlaethol ynghylch y ffordd orau i ni eu gweld, gwrando arnyn nhw a’u cefnogi’n well.

A gyflwynir gan:
Faaiza Bashir (Carer’s Trust Wales), Edward Janes (Prifysgol Caerdydd), Jen Lyttleton-Smith (Prifysgol Caerdydd)