Crynodeb Mae Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR) yn cynnig cyfle hollbwysig i ddysgu gan achosion pan fydd oedolion mewn perygl wedi cael niwed sylweddol neu wedi marw, gan ganfod cryfderau a gwendidau systemig mewn arferion diogelu. Dadansoddodd yr adolygiad thematig hwn yn 2025, a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, 25 o adolygiadau o… Read More
Cam-drin Gwahaniaethol: Defnyddio straeon a naratifau i ymchwilio i ymatebion proffesiynol
Crynodeb: Mae cam-drin gwahaniaethol yn cyfeirio at fathau o aflonyddu sy’n targedu nodweddion gwarchodedig rhywun, megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dyma gategori o gam-drin nad yw’n cael ei adrodd yn ddigonol ac ychydig rydyn ni’n ei wybod am sut mae… Read More
Profiadau a deilliannau plant awtistig mewn gofal maeth a gofal gan berthynas yng Nghymru
Crynodeb Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau prosiect tair blynedd sy’n edrych ar anghenion a deilliannau plant awtistig mewn gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon mewn tair rhan, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Roedd rhan un yn cynnwys dadansoddiad o ddata cysylltiedig gan ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL i ddeall mwy am niferoedd… Read More
Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni
Crynodeb: Mae rhieni sydd â phrofiad o’r system lles plant yn gweithio fel eiriolwyr i helpu rhieni eraill mewn perthynas â lles plant. Mae rhieni yn ymgyrchwyr hefyd i newid polisïau, rhaglenni a systemau lles plant. Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar sut i greu a rheoli rhaglen eiriolaeth rhieni sy’n cynorthwyo rhieni, yn helpu… Read More
Llithro drwy’r rhwyd – atal ac amddiffyn
Crynodeb: Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc anabl niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu yn bryder o ystyried y cyfraddau uwch o gam-drin a chamfanteisio a brofir gan blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried anghenion y plant hyn a’u rhieni. Yn seiliedig ar astudiaeth a gyhoeddwyd yn… Read More
“Dydyn nhw ddim yn ystyried bod pobl ifanc yn dioddef camfanteisio”: Ymatebion amlasiantaethol i gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru
Crynodeb: Er gwaethaf polisïau a dulliau amddiffyn plant cadarn y DU o ran caethwasiaeth fodern, nid oes deddfwriaeth na chanllawiau statudol penodol i fynd i’r afael â chamfanteisio troseddol ar blant. Yn hytrach, mae’n cael ei ystyried o dan ddarpariaethau presennol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Ac eto, anaml y mae gweithwyr rheng flaen… Read More
Cryfhau’r system er budd plant sydd wedi dioddef camfanteisio troseddol – o ymwybyddiaeth i weithredu
Am y gweminar Ar draws y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, ceir ymwybyddiaeth gynyddol o gamfanteisio’n droseddol ar blant, ond mae ymarferwyr yn dal i fod wedi drysu ynglŷn â’r hyn sydd wir yn gweithio i’w cefnogi. Bydd y weminar hon yn archwilio tirwedd esblygol polisi, deddfwriaeth ac ymarfer, gan dynnu sylw at y… Read More
Gweminar: Diffinio cam-drin plant at ddibenion ymchwil a chadw golwg
Crynodeb Ymunwch â ni am weminar lle byddwn ni’n treiddio’n ddyfnach i gymhlethdodau’r pwnc o gam-drin plant, sy’n fater o bwys i iechyd y cyhoedd ac sydd â goblygiadau gydol oes. Mae’r weminar hon yn seiliedig ar astudiaeth Delphi Ewropeaidd arloesol, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Lancet Regional Health – Europe. Bydd yn trin a thrafod… Read More
Y Ddarlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2025
Mae’n bleser gennyn ni lansio Darlith Mabwysiadu Flynyddol 2025. Ein siaradwr gwadd fydd Dr Tam Caneo Brifysgol Sussex, a fydd yn cyflwyno ei hymchwil ar y fframwaith AFDiT – fframwaith gyda’r nod o wella deilliannau hunaniaeth plant o blith grwpiau ethnig wedi’u lleiafrifo a fabwysiadwyd gan rieni o hil wahanol. Gallwch chi gofrestru nawr. Athro Cyswllt yn yr Adran Gwaith Cymdeithasol a… Read More
Gweminar: Gwahaniaethau ethnig a chrefyddol yn y defnydd o ofal iechyd plant sy’n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru
Crynodeb Mae plant sy’n derbyn gofal a chymorth gan y system lles plant yn cynrychioli is-boblogaeth agored i niwed sy’n aml yn wynebu heriau cymhleth ac amlochrog, sydd fel arfer yn deillio o gamdriniaeth, esgeulustod neu anabledd. Er gwaethaf y gwahaniaethau iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â’r grŵp hwn, mae ymchwil gyfyngedig wedi edrych ar sut… Read More
