Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Cefnogi Teuluoedd sy’n destun Gwarcheidwaeth Arbennig: asesiad cymorth, ceisiadau ASF ac anghenion cymorth
Bydd y cwrs hwn, sy’n cael ei gynnig gan CORAM BAAF, yn archwilio anghenion cymorth teuluoedd sy’n destun gwarcheidwaeth arbennig, sut i asesu anghenion cymorth sy’n sensitif i anghenion teuluoedd sy’n gofalu am berthnasau, a sut y gellir diwallu’r anghenion hyn yn fwyaf effeithiol.
