Gan Jessica Roy

Child & Family Social Work (2020)

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr Donald Forrester

Pa gwestiwn mae’r ymchwil yn ceisio’i ateb?

Mae cyfran uchel o waith cymdeithasol plant a theuluoedd yn cynnwys rhieni sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, ond prin yw’r ymchwil sy’n archwilio natur y materion hyn – ac mae bron 20 mlynedd ers yr astudiaeth fwyaf i wneud hynny Mae ymchwil Roy yn mynd i’r afael â hyn trwy ddisgrifio nodweddion 299 o blant o 186 o deuluoedd a gyfeiriwyd at un awdurdod lleol yn Lloegr ac ymateb i’r cwestiwn – beth yw’r mathau o broblemau alcohol a chyffuriau rhieni sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau plant?

Sut mae’n ceisio gwneud hynny?

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar gofnodion achos gwaith cymdeithasol. Mae’r papur yn darparu disgrifiad o’r sampl, ac yn ystyried a oes unrhyw gysylltiadau arwyddocaol rhwng y gwahanol newidynnau 

Beth roedd yn ei gynnwys?

Y prif atgyfeiriwr oedd yr heddlu ac alcohol oedd y sylwedd mwyaf cyffredin a nodwyd – i bron tri chwarter y plant. Roedd cysylltiadau cryf â heriau rhieni eraill – roedd 44% o’r plant yn byw mewn teuluoedd lle’r oedd iechyd meddwl rhieni yn broblem, 43% yn profi cam-drin domestig a 60% yn ymwneud â chyfiawnder troseddol. Roedd cyfran uchel iawn wedi bod mewn cysylltiad blaenorol â gwasanaethau plant – roedd bron 70% o’r teuluoedd wedi cael atgyfeiriadau blaenorol.

Sut dylen ni ddehongli’r canfyddiadau?

Elfen fwyaf diddorol yr astudiaeth hon fydd y gwaith dilynol, a fydd yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i’r plant a pha ffactorau a ddylanwadodd ar eu canlyniadau. Gall hyn ein helpu i nodi ffactorau risg neu amddiffynnol, a rhoi awgrymiadau am sut y gallem helpu teuluoedd yn fwy effeithiol. 

Serch hynny, mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn ddiddorol ynddynt eu hunain. Fi oedd prif awdur astudiaeth debyg i’r un hon – rhyw ugain mlynedd yn ôl – ac efallai mai’r canfyddiad mwyaf trawiadol yw bod y sefyllfa’n ymddangos yn eithaf tebyg. Wrth gwrs, dim ond un awdurdod lleol ydyw – ac nid un Cymreig – ond mae’r ffordd y mae problemau cyffuriau ac alcohol rhieni wedi’u cydblethu mewn tapestri cymhleth o broblemau eraill yn aros yr un fath. Felly, mae problemau alcohol neu gyffuriau yn gysylltiedig â thlodi, cam-drin domestig, materion iechyd meddwl a llu o gymhlethdodau eraill.

Mae hyn yn golygu mai prin y mae camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn broblemau ar wahân. Maent yn cael eu hachosi gan amrywiaeth o faterion eraill ac yn cyfrannu atynt. Mae hyn yn awgrymu dau beth. Yn gyntaf, mae angen i weithwyr cymdeithasol feddu ar ddealltwriaeth dda o broblemau alcohol a chyffuriau. Dylent wybod beth sy’n achosi camddefnyddio cyffuriau neu alcohol a hanfodion sut i helpu – a’r hyn nad yw’n helpu. Yn ail, mae angen i weithwyr cymdeithasol gydnabod hefyd nad yw’r wybodaeth hon yn ddigonol ar ei phen ei hun – oherwydd mai prin y bydd problemau cyffuriau ac alcohol yn broblemau ar wahân os byth; maent yn digwydd fel rhan o ddarlun mwy cymhleth. 

Yn fwy cyffredinol, mae’r darn hwn o ymchwil yn helpu i’n hatgoffa pam mae angen gwaith cymdeithasol arnom yn y lle cyntaf – yn union oherwydd bod angen i ni ddeall materion fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol nid fel problemau unigol ond fel rhan o gyd-destun cymdeithasol a seicolegol ehangach.


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr Donald Forrester