Dydw i ddim yn mynd i ddweud celwydd; dydy rhai pobl ddim hyd yn oed eisiau sgwrsio: Cyd-ddylunio gyda grwpiau sy’n agored i niwed sy’n cael eu heffeithio gan gam-fanteisio’n droseddol ar blant

Dr Cindy Corliss

Mae cyd-gynhyrchu yn anrhydeddu profiad bywyd unigolion gan mai nhw yw’r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan nad yw materion yn cael eu deall yn dda oherwydd gallan nhw gynnig cipolwg gwerthfawr. Fodd bynnag, mae cyd-gynhyrchu hefyd yn dod â heriau oherwydd anghydbwysedd pŵer presennol rhwng ymchwilwyr a’r rhai mewn poblogaethau sy’n agored i niwed. Wrth benderfynu ar strategaethau a fyddai’n fwyaf effeithiol wrth ddiogelu pobl ifanc, cafodd pecyn cymorth ei gyd-ddylunio, ei werthuso a’i fireinio yn seiliedig ar adborth gan bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Roedd ymgysylltu â phobl ifanc yn y prosiect hwn yn eu galluogi i ddod yn gyd-ddylunwyr gweithredol. Er bod anawsterau wrth ymgysylltu oherwydd ystyriaethau moesegol, cynlluniwyd dull hyblyg fel y gallai unigolion rhyngweithio ar eu telerau eu hunain.

Cytunodd yr holl gyd-ddylunwyr fod angen gwybodaeth gyffredinol ychwanegol am gam-fanteisio’n droseddol ar blant a oedd wedi’u targedu at wahanol gynulleidfaoedd. Roedd y pecyn cymorth ieuenctid yn cynnwys Siarter Ieuenctid, dwyffilm gyda phobl ifanc yn rhannu sut wnaeth camfanteisio effeithio ar eu bywydau, tra bod y pecyn cymorth i rieni yn cynnig manylion gwefan i helpu i godi ymwybyddiaeth.

Mae’r adnoddau hyn yn rhad ac am ddim ac wedi’u hanelu at wella ymatebion cymunedol i gamfanteisio i gefnogi pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu heffeithio gan gamfanteisio troseddol ar blant.

Am ragor o wybodaeth am yr adnoddau hyn, ewch i – Diogelu Cymhleth Cymru