Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

14 Medi – 19 Hydref 2022
The Boiler House

Ymunwch â The Boiler House Graffiti Gallery a dysgwch sut i fod yn Arlunydd Graffiti!

Ar y cwrs hwn byddwch chi’n gweithio gydag Arlunwyr Graffiti proffesiynol ac yn dysgu sut i ddefnyddio paent chwistrell i greu murluniau Graffiti lliwgar a thrawiadol ar raddfa fawr. Mae ganddynt lawer o brofiad ac maent wedi creu murluniau di-rif o amgylch y DU a thramor.

Dros chwe wythnos bydd yr arlunwyr yn gweithio gyda chi i ddylunio a phaentio murlun mawr a fydd yn cael ei arddangos fel rhan o’n gŵyl gelfyddydol ryngwladol, Llais.

Nodwch fod y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn The Boiler House Graffiti Gallery yn Nhreganna. Gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid ollwng a chasglu unrhyw bobl ifanc sy’n dilyn y cwrs yn y lleoliad hwn. Os oes gennych unrhyw anghenion neu ofynion hygyrchedd penodol o ran cyrraedd y lleoliad, cysylltwch â ni.

I buy mae’r rhaglen?

Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un 14 – 18 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

I sicrhau eich lle ar ein cwrs chwe wythnos am ddim, cofrestrwch.

Pryd?

Bob dydd Mercher, 4.30pm – 6.30pm dros chwe wythnos yn dechrau ar 14 Medi 2022.

Mae chwe sesiwn i’r cwrs yma, ar y dyddiadau canlynol: 14 Medi, 21 Medi, 28 Medi, 5 Hydref, 12 Hydref a 19 Hydref a bydd angen i chi fynd i bob un. Ychwanegwch un tocyn at eich basged er mwyn archebu lle ar y cwrs cyfan.

Os yw’r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.