Mae’r Rhwydwaith Maethu Cymru yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal i greu cylchgronau sy’n trafod eu pryderon, dogfennu eu profiadau, a chyfleu negeseuon pwysig. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Thrive yn 2005 ac ers hynny mae wedi bod yn rhoi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal maeth ledled Cymru. Mae Thrive yn rhoi platfform safonol sy’n grymuso pobl ifanc i ddweud eu dweud ac i fynegi eu barn ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Nid yw iechyd meddwl a lles pobl ifanc erioed wedi bod dan gymaint o bwysau – ac weithiau gall cael profiad o ofal ychwanegu ei heriau ei hun. I rai pobl ifanc, mae hyn wedi’i waethygu gan y pandemig a’r cynnydd mewn costau byw. Dywedodd rhai eu bod yn profi unigrwydd, problemau ariannol, ac wedi cael trafferth cael mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl.

Roedd rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Thrive yn tynnu ar ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys astudiaeth a oedd yn archwilio cymorth lles i bobl ifanc â phrofiad o ofal yn ystod y pandemig. Mae’r rhifyn hwn o gylchgrawn Thrive yn edrych ar yr holl adnoddau gwahanol sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ar gyfer cynnal lles.

Gallwch lawrlwytho copi yn rhad ac am ddim o wefan Rhwydwaith Maethu Cymru:


Cyswllt allweddol: Charlotte Wooders, Rheolwr Prosiect Maethu Cymunedau, Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, @tfn_Wales, wales@fostering.net.

Ewch i wefan Y Rhwydwaith Maethu i weld rhifynnau blaenorol o Thrive.


Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y cyhoeddiadau blaenorol hyn gan Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: