Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Mae gan weithwyr rheng flaen rôl hanfodol i’w chwarae o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd, p’un a ydyn nhw’n gweithio i sefydliad cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Pan fo aelwydydd yn cael trafferth cadw’n gynnes a thalu biliau, gall gweithwyr cynghori wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hiechyd a’u harian.
Mae tîm hyfforddi ymroddedig Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) yn cynnig cyrsiau ar gyfer cynorthwyo cartrefi o ran tlodi tanwydd, effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio a mwy. Mae eu cyrsiau’n dysgu gweithwyr rheng flaen sut i adnabod aelwydydd sydd o bosib mewn tlodi o ran tanwydd, ac ynghylch sut i roi cyngor defnyddiol i’r aelwydydd hynny a sut i’w cyfeirio at gymorth a chefnogaeth bellach. Mae gan NEA hefyd gyrsiau sy’n ymdrin â thechnolegau megis mesuryddion clyfar ac ynni adnewyddadwy, i helpu i gefnogi cartrefi i groesawu’r trawsnewid gwyrdd.
Daw’r cyrsiau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys gweminarau, e-ddysgu a hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Cewch weld yma pryd mae NEA yn cynnal digwyddiadau hyfforddi a all helpu eich sefydliad gyda phynciau sy’n amrywio o dlodi tanwydd i ddatgarboneiddio.
Gweminarau hyfforddi’r NEA:
Talu am Danwydd
Bydd y cwrs yn edrych ar sut y pennir ffioedd am nwy a thrydan, y mathau o dariffau rydyn ni’n eu defnyddio a sut y gallwn gyfyngu ar ein gwariant. Bydd yn helpu cynrychiolwyr i ddeall cynnwys cyfriflenni tanwydd a sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i gynorthwyo preswylwyr.
Croeso Cynnes: Tlodi Tanwydd, Effeithiau ar Iechyd a Chymorth
Mae’r gweminar hwn, a ariennir yn llawn, yn rhan o brosiect ‘Croeso Cynnes’ yr NEA ac wedi’i anelu’n benodol at weithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff / gwirfoddolwyr rheng flaen eraill sy’n gweithio gyda theuluoedd newydd a theuluoedd sy’n disgwyl plentyn, ac sydd am ddysgu am dlodi tanwydd, ei achosion, a’i gysylltiadau â lles corfforol a meddyliol.
Gweminar: Bod yn Fregus yn Ariannol yn y Farchnad Ynni
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut mae cyflenwyr tanwydd, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, cwmnïau rhwydweithiau dosbarthu nwy ac Ofgem yn diffinio bregusrwydd a’r gefnogaeth sydd ar gael, megis y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
Gweminar Deall Tlodi Tanwydd ac Iechyd: Effeithiau ar Iechyd Meddwl
Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio ar gyfer staff rheng flaen sy’n gweithio gyda grwpiau bregus a grwpiau sydd ag incwm isel sydd yn wynebu’r risg o fod yn byw mewn cartrefi oer a llaith. Mae’n cynnwys yr effeithiau y gall byw mewn tlodi tanwydd eu cael ar iechyd meddwl unigolion.
Cyflwyniad i Effeithlonrwydd Ynni Domestig
Wedi’i ddylunio i roi cyflwyniad sylfaenol ynghylch effeithlonrwydd ynni domestig i staff rheng flaen sy’n rhoi cyngor ynghylch effeithlonrwydd ynni i breswylwyr.
Cyngor yn y Gymuned Ynghylch Dyled yn Ymwneud â Thanwydd
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag achosion dyled tanwydd, a phob mater y gallai preswylwyr eu hwynebu’n ymwneud â mesuryddion, cyfriflenni tanwydd, opsiynau talu a thariffau. Mae hefyd yn ystyried y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwyn a’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer aelwydydd sydd ag incwm isel ac aelwydydd bregus.
Mae llefydd wedi’u hariannu ar gael i sefydliadau anfasnachol yng Nghymru a Lloegr.
Rhaid i ddysgwyr fod yn staff rheng flaen / gwirfoddolwyr sy’n gweithio â chleientiaid sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. yn y bôn ar incwm isel / mewn sefyllfa fregus ac sy’n ei chael hi’n anodd rheoli anghenion ynni’r cartref) ac sy’n rhoi cyngor i’r cleientiaid hynny.
Cyswllt allweddol:
Lynsey Thompson, Cydlynydd Hyfforddi gydag NEA
Ffôn: 01912615677
Ewch i Ddyddiadur Hyfforddi NEA i gael rhagor o wybodaeth am eu gweminarau.
Cyrsiau e-ddysgu NEA
Ymwybyddiaeth ynghylch Ynni (Gwobr Lefel 3)
Bydd y cwrs hwn, sydd wedi’i anelu at weithwyr sy’n rhoi cyngor ar ynni i aelwydydd, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, yn ymdrin â dulliau arbed ynni a gwybodaeth a sgiliau eraill sydd eu hangen er mwyn rhoi cyngor defnyddiol.
Datgarboneiddio Cartrefi: Technolegau, Effeithiau ac Atebion (Gwobr Lefel 4)
Mae cymaint o wahanol ffyrdd y gall deiliaid tai gymryd rhan yn y trawsnewid gwyrdd. Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ymarferol o ystod o dechnolegau carbon isel ac adnewyddadwy, a hefyd eu heffeithiau, a sut y gallant helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
Cyswllt allweddol:
Lynsey Thompson, Cydlynydd Hyfforddi gydag NEA
Ffôn: 01912615677
Ewch i Ddisgrifiadau o Gyrsiau’r NEA i gael rhagor o wybodaeth am eu gweminarau a’u cyrsiau e-ddysgu.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.