Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
9 Chwefror 2023
9:30yb – 10:30yb
Ar-lein trwy Zoom
Cost am ddim
Cyflwynir gan Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg.
Mae cyllidebu ar sail rhywedd yn derm sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin wrth drafod llunio polisïau yng Nghymru, ond beth yn union yw cyllidebu ar sail rhywedd a sut y gall ein cefnogi i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau? Pa waith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â chyllidebu ar sail rhywedd yng Nghymru?
Ymunwch â ni am weminar sy’n cyflwyno’r cysyniad o gyllidebu ar sail rhywedd, yn amlygu rhai o’i nodweddion allweddol, a dysgwch sut mae cyllidebu ar sail rhywedd yn arf pwysig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.