Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
7 Chwefror 2023
1:00pm – 2:00pm
Ar-lein trwy Zoom
Cost am ddim
Dan gadeiryddiaeth Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg
Luke Young, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Cyngor ar Bopeth
Nid yw effeithiau’r argyfwng costau byw yn taro’n gyfartal ar draws ein cymdeithas. Gwyddom fod menywod yn fwy agored i effeithiau’r argyfwng costau byw. Mae menywod, yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig a hiliol, menywod anabl a rhieni unigol yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn swyddi ansicr, gyda chyflog isel, yn aml yn jyglo gwaith â thâl â chyfrifoldebau gofalu di-dâl ac â lefelau is o arian a chynilion. Mae’r ffactorau hyn i gyd yn eu gadael yn fwy bregus i’r argyfwng costau byw.
Ymunwch â ni am drafodaeth banel ar effeithiau’r argyfwng costau byw o ran rhywedd ar a’r ymateb polisi sydd ei angen i sicrhau bod pawb yn y gymdeithas yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.