Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
6 Chwefror 2023
10:45 am – 12:00 pm
Digwyddiad ar-lein trwy Zoom
Cost am ddim
Dan gadeiryddiaeth Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, gyda’r gwestai arbennig Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa mor gyfartal yw Cymru o ran rhywedd? Faint o gynnydd a wnaethom dros y pum mlynedd diwethaf? Ymunwch â ni i glywed y ffigurau diweddaraf sy’n mesur anghydraddoldeb rhywedd.
Bydd Natasha a’r tîm yn tynnu sylw at y prif ffigurau o’n hadroddiadau diweddaraf ar Gyflwr y Genedl. Byddwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau ein hadolygiad pum mlynedd a’n hadroddiad blynyddol i weld faint o gynnydd mae Cymru wedi’i wneud tuag at ddod yn Gymru gyfartal o ran rhywedd
Rydym hefyd yn falch y bydd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymuno â ni, a fydd yn agor y digwyddiad gyda’i myfyrdodau ar y cynnydd mae Cymru’n ei wneud o ran dod yn genedl wirioneddol gyfartal o ran rhywedd.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.