Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

18 Ionawr 2023
O 7pm i 8.30pm 
Digwyddiad ar-lein
£5.00

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda dangosiad o’r ffilm fer arobryn, Be-Longing. Mae’r ffilm bwerus hon yn adrodd hanes Khoji, bachgen 9 oed ‘sy’n derbyn gofal’ sy’n byw gyda theulu maeth yn Llundain. Mae hon yn ffordd wych o agor sesiwn holi-ac-ateb y cyfarwyddwr a thrafodaeth gyda Stanley J. Browne aNiki Igbaroola ynghylch gofal maeth, yr effeithiau y mae’n eu cael ar bobl ifanc mewn amgylchiadau anodd, a sut y gallwn eu cefnogi orau trwy gydol y broses hon. 

Bydd Stanley J. Browne a Niki Igbaroola yn rhannu eu profiadau eu hunain o’r system ofal ac yn trafod y teimlad o gael eu geni i’r teulu anghywir wrth symud o gwmpas tra mewn gofal maeth. Bydd ffocws ar fater pwysig rhieni ac iechyd meddwl. 

Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar rannu gwybodaeth, dysgu a chefnogi ein gilydd. Maen nhw eisiau clywed am eich profiadau eich hun, eich cwestiynau, a’r problemau rydych chi’n dod ar eu traws i helpu i wneud pethau’n well i chi a’r bobl ifanc yn eich gofal. Mae’r sesiwn hon hefyd yn cynnig cyfle rhwydweithio pwerus lle gallwn ddysgu oddi wrth bobl eraill yn y sector, a chydweithio i ddod o hyd i atebion i helpu i greu newid parhaol.

Felly, os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal, neu’n rhywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae’r digwyddiad hwn i chi!

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio i helpu’r rhai sy’n gweithio yn y sector gofal i:

  • Rannu arferion da
  • Dysgu o lwyddiannau allweddol asiantaethau eraill
  • Rhoi cyfle i ofyn – am eich brwydrau mwyaf/eich sefydliad, neu sut mae asiantaethau eraill yn delio â materion a sefyllfaoedd penodol i ddysgu oddi wrthynt
  • Rhannu eich digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar ddod
  • Dod â’ch cwestiwn i’r bwrdd i weithwyr proffesiynol eraill yn y sector ymateb iddo
  • Trafod cyfleoedd i greu newid parhaol

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.