Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
13 Mawrth / 27 Mawrth / 17 Ebrill / 15 Mai / 22 Mai 2023
10.00am – 12.00pm bob sesiwn (gweler y dyddiadau am fanylion)
Ar-lein ar Zoom
Codir ffi am y cwrs hwn
Trefnir y cwrs hwn gan CoramBAAF.
Mae’r gwrthrychau o’n cwmpas wedi’u cydblethu â’n teimladau a’n profiadau. Gall archwilio ein perthynas â gwrthrychau ein helpu i adrodd ein straeon a rhoi gwell dealltwriaeth i ni o bobl eraill a ninnau. Bydd y cwrs yn dangos sut y gellir defnyddio gwrthrychau fel arf hygyrch i ennyn, rhyddhau a lleddfu emosiynau, sut y gall gwrthrychau ddod yn gartref diogel i’r teimladau hyn, a sut y gall ffocws ar wrthrychau ryddhau’r dychymyg a hyrwyddo arferion a pherthnasoedd creadigol.
Pwy ddylai fynd?
Mae Gwrthrychau a’u Straeon wedi’i gynllunio ar gyfer gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, ac eraill, i adeiladu ar eu hyfforddiant cychwynnol ac mae’n ddilyniant a datblygiad naturiol o waith stori bywyd. Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ei stori, a sut i ymgorffori hyn yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro fel gofod myfyrio ar gyfer ymarferwyr a gofalwyr, a rhoddir amser sylweddol i gyfranogwyr fyfyrio ar eu gwaith a’u profiadau eu hunain, yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi. Anogir y grŵp i roi cynnig ar y sgiliau a’r ymagweddau rhwng sesiynau, gyda chyfathrebu o fewn y grŵp yn cael ei hwyluso i gefnogi gweithredu’n ymarferol, ac adeiladu rhwydwaith caredig a myfyriol ar gyfer cefnogaeth yn y tymor hwy.
Themâu a deillainnau dysgu
Bydd yr hyfforddiant yn seiliedig ar chwe sesiwn:
- Sut gall gwrthrychau fod yn ystyrlon.
- Gwrthrychau pwerus a gwerthfawr.
- Defnyddio gwrthrychau i ddweud wrth y byd pwy ydych chi.
- Gwrthrychau anghyfforddus, dryslyd neu boenus.
- Defnyddio gwrthrychau a chasgliadau o wrthrychau i wneud sefyllfaoedd anodd yn haws.
- Archwilio straeon bywyd trwy wrthrychau.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.