Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

20 Chwefror 2023
10.00am – 4.00pm
Ar-lein ar Zoom
Codir ffi am y cwrs hwn

Trefnir y cwrs hwn gan CoramBAAF.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n ymwneud ag asesu darpar rieni mabwysiadol, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau ac sy’n dymuno cynyddu eu hymwybyddiaeth a’u hyder wrth ystyried materion rhywedd wrth asesu, dadansoddi a gwneud penderfyniadau. 

DEILLIANNAU DYSGU

Dyma’r canlyniadau dysgu ar gyfer y cwrs hwn:

  • Archwilio’r hyn a olygwn wrth y term amrywiaeth a sut mae’r rhain yn effeithio ar ein hymarfer
  • Ystyried arfer gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol fel egwyddorion craidd wrth weithio gyda darpar fabwysiadwyr, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau
  • Archwilio hunaniaeth rhywedd, a materion amrywiaeth yn ymwneud â rhywedd
  • Ystyried ein gwerthoedd a’n credoau ein hunain am wahanol bobl a grwpiau mewn cymdeithas a myfyrio’n feirniadol ar effaith gwerthoedd personol ar farnau proffesiynol a phenderfyniadau
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a hyder wrth asesu ymgeiswyr trawsrywiol
  • Ystyried amrywiaeth mewn ymarfer – recriwtio, asesu, paneli, dod o hyd i deulu, paru a chymorth.
  • Ystyried goblygiadau’r holl ffactorau hyn wrth gynnal asesiadau effeithiol a gwneud penderfyniadau priodol

PWY DDYLAI FYND?

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gwaith cymdeithasol, aelodau paneli, penderfynwyr a’r rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer y rolau hynny.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.