Cyfle i helpu astudiaeth ymchwil ar lesiant plant a phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a cholegau sydd â phrofiad o ofal
Ddydd Mawrth 7 Chwefror 2023
9am a 10.30am
Digwyddiad ar-lein trwy Teams
Hoffai Prifysgol Caerdydd siarad ag ymarferwyr addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl, am eu profiadau a’u barn am ddarpariaeth iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad ymgynghori ar-lein hwn yn un o gyfres o ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal yn rhan o Astudiaeth WiSC – ‘Llesiant mewn Ysgolion a Cholegau’.
Nod astudiaeth WiSC
Nod astudiaeth WiSC yw deall y modd y mae ysgolion uwchradd a cholegau Addysg Bellach yng Nghymru yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gwneud argymhellion ynghylch y modd y gellid gwella’r cymorth.
Mae ysgolion, colegau a thimau gwaith cymdeithasol yn amrywio’n fawr ledled Cymru, felly mae’n bwysig bod ymarferwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cynnwys a’u cynrychioli.
Y digwyddiad ymgynghori ar-lein
Bydd yr ymgynghoriad yn drafodaeth grŵp ar-lein a bydd yn canolbwyntio ar:
- yr anghenion cymorth iechyd meddwl a llesiant yn achos myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau sydd â phrofiad o ofal;
- y cymorth cyfredol mewn ysgolion a cholegau ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal;
- anawsterau neu fylchau canfyddedig mewn cymorth iechyd meddwl a llesiant.
Y modd i gymryd rhan
Os ydych yn gweithio ym maes addysg, gofal cymdeithasol neu iechyd meddwl a bod gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r darn hwn o waith a chymryd rhan yn y digwyddiad ymgynghori, darllenwch drwy’r daflen wybodaeth atodedig i gael gwybod mwy.
Mae dolen i ffurflen mynegi diddordeb i’w chael ar waelod y daflen wybodaeth. Llenwch y ffurflen fer hon erbyn dydd Mawrth 24 Ionawr i fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan. Bydd lleoedd yn brin yn y digwyddiad, ac os bydd gormod o bobl yn mynegi diddordeb, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwahodd cyfranogwyr o rannau gwahanol o Gymru sydd â phrofiadau gwahanol o ymarfer.