Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

28 Chwefror 2023
10.00am – 2.00pm
Ar-lein ar Zoom
Codir ffi am y cwrs hwn

Trefnir y cwrs hwn gan CoramBAAF.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn archwiliad hynod ryngweithiol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd yn eich annog i ymchwilio i wahanol enghreifftiau o ragfarn ddiarwybod mewn fformat diogel a chefnogol. Mae hon yn sesiwn EDI unigryw oherwydd bydd yn hwyl ac yn gwneud i chi feddwl.

DEILLIANNAU DYSGU

  • Trin a thrafod rhagfarn ddiarwybod mewn amgylchedd diogel a chefnogol
  • Myfyrio ar effaith credoau am hanfod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar wneud penderfyniadau
  • Annog trafodaeth agored am bynciau a allai fod yn rhai anodd sy’n effeithio ar arferion

PWY DDYLAI FYND?

Argymhellir y sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, p’un a ydynt yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, iechyd, addysg neu gyfreithiol.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.