Cyfranogiad ystyrlon plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau am eu gofal
Mai 2019
Mae’r weminar hyfforddi hon yn archwilio cyfranogiad plant, yn enwedig mewn perthynas â phlant mewn adolygiadau gofal a chynadleddau amddiffyn plant. Mae’n ystyried canfyddiadau tair astudiaeth a oedd yn cynnwys cyfweliadau â phlant mewn gofal, plant sy’n destun cynllun amddiffyn plant, a’u rhieni, uwch reolwyr, gweithwyr cymdeithasol ac IROs. Mae’n trafod sut olwg sydd ar ymarfer da mewn perthynas â chyfranogiad ystyrlon gan bobl ifanc, yn enwedig mewn adolygiadau plant mewn gofal, ac yn amlinellu rhai o’r rhwystrau a’r galluogwyr i ymarfer o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar blant.