Mae’r Rhwydwaith Maethu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd wedi datblygu cylchgrawn newydd ar gyfer gofalwyr maeth sy’n Gweithio Law yn Llaw.
Mae’r cylchgrawn yn tynnu ar leisiau pobl ifanc a gofalwyr maeth a’i nod yw darparu trosolwg o rai o’r prif heriau y mae plant maeth yn eu hwynebu yn yr ysgol. Ond, yn bwysicach fyth, ei nod yw cynnig rhai syniadau ymarferol ar gyfer camau i’w cymryd i helpu plant a phobl ifanc yn eich gofal i wneud yn dda a mwynhau eu haddysg.
Ymhlith y nodweddion mae;
Gallwn Gyflawni – gyda ffocws ar #messagestoschools
Rhannu Problemau – mae gofalwyr maeth yn rhannu eu syniadau ar gyfer mynd i’r afael â heriau mewn addysg
Creadigrwydd a Diwylliant – gyda ffocws ar brosiect Gwerth Ymgysylltu Diwylliannol a Chreadigol
Adeiladu Perthynas Dda â’r Ysgol – 5 awgrym da
Gwneud y Gorau o Gyfarfodydd Adolygu Blynyddol – 5 awgrym da
Lle Nesaf – adnoddau ar gyfer gofalwyr maeth
Gobeithiwn y bydd yr erthyglau a’r wybodaeth yma yn ddefnyddiol i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gofalu amdanynt ac ar gyfer gwneud gwelliannau cadarnhaol yn eu bywydau.
Gallwch chi lawrlwytho’r cylchgrawn isod a bydd yn cael ei ddosbarthu i bob cartref maeth yng Nghymru – ond cysylltwch os hoffech chi gael copi caled. Mae gan y Rhwydwaith Maethu gylchgronau a chanllawiau eraill hefyd i gefnogi plant, pobl ifanc a gofalwyr maeth ar gael yma.