Mae’r astudiaeth ansoddol hon yn edrych ar linellau amser gweledol a’u heffeithiolrwydd dros y ffôn gan amlygu’r angen i archwilio dulliau gweledol ychwanegol mewn cyd-destunau a lleoliadau eraill.
Astudiaeth Teulu STAR
Fel cydymaith ymchwil yn CTR a DECIPHer sydd â diddordeb mewn ymchwil yn ymwneud â menywod a gofal, ymunais ag ‘Astudiaeth Teulu STAR’ dan arweiniad Dr Rhiannon Phillips, astudiaeth oedd yn archwilio anghenion menywod â Chlefyd Gwynegol Hunanimíwn (ARD) drwy gydol eu taith at fod yn famau.
Ymagwedd yn canolbwyntio ar y fenyw
Rydym ni’n disgwyl i straeon menywod fod yn bersonol, yn sensitif ac yn deimladwy, ac fe fabwysiadom ni ymagwedd ac ethos oedd yn canolbwyntio ar y fenyw ar gyfer yr astudiaeth. Gyda hyn mewn golwg, defnyddion ni gyfweliadau a hwyluswyd â llinell amser, dull ansoddol o gasglu data a ddefnyddir gyda grwpiau agored i niwed neu sydd ar y cyrion i helpu i ailddosbarthu rhywfaint o’r anghydbwysedd grym a all godi mewn cyfweliadau lled-strwythuredig safonol. Gall llinellau amser gweledol annog cyfranogwyr i greu darlun gweledol o’u taith gronolegol a rhannu eu profiadau bywyd yn eu ffordd eu hunain. Gall hyn gynnig elfen o berchnogaeth dros eu naratifau, nodwedd yr ystyrir ei bod yn hynod o bwysig yn Astudiaeth Teulu STAR.
Ffyrdd newydd o ddefnyddio llinellau amser gweledol
Yn nodweddiadol cynhelir cyfweliadau a hwylusir â llinell amser wyneb yn wyneb, ond roedd y boblogaeth oedd o ddiddordeb yn Astudiaeth Teulu STAR yn grŵp a allai fod yn anodd eu cyrraedd, wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol ar draws y DU, gan olygu bod rhai cyfweliadau’n digwydd dros y ffôn. Doedd dim llenyddiaeth yn bodoli ar ddichonoldeb defnyddio llinellau amser gweledol dros y ffôn felly gyda chymorth Dr Rhiannon Phillips, Dr Aimee Grant, a Dr Denitza Williams, ceisiais lenwi’r bwlch hwn. Arweiniodd hyn at y cwestiynau ymchwil canlynol:
- Sut cafodd y llinellau amser gweledol eu defnyddio gan fenywod ac ymchwilwyr yn y cyfweliadau ffôn (e.e. pa ffurf weledol ddefnyddion nhw, pwy oedd yn cynhyrchu’r llinellau amser, a rannwyd y llinellau amser gyda’r ymchwilydd, ac os felly, pryd)?
- Pa effaith gafodd eu defnydd ar gynhyrchu data yn nhermau’r dynameg cyfwelai-cyfwelwr a ffurfio a rhannu naratifau menywod?
- Pa effaith gafodd llinellau amser gweledol ar ansawdd y data a gynhyrchwyd mewn cyfweliadau ffôn yn nhermau hyd naratif, manylion, ac ymdrin â phynciau sensitif ac emosiynol?
Ein canfyddiadau
Roedd canfyddiadau’n nodi bod cyfweliadau a hwyluswyd â llinell amser yn gweithio’n effeithiol yn Astudiaeth Teulu STAR, gan gynhyrchu naratifau manwl o brofiadau bywyd menywod ac annog perchnogaeth ac ymreolaeth dros gyfeiriad cyfweliadau. Ymddangosodd chwe thema yn sgil dadansoddi data methodolegol:
- Y cyfranogwyr yn defnyddio ac yn addasu’r teclyn llinell amser
- Cyfnewid llinell amser ar ddiwedd y cyfweliad (dychwelyd llinellau amser wedi’u cyflawni i’r cyfwelydd)
- Fframio’r cyfweliad: pwysleisio mai’r menywod sy’n rheoli
- Neidio’n syth i naratifau
- Arwain (o ran cyfeiriad y cyfweliad)
- Datgelu profiadau personol a sensitif.
Dychwelyd llinell amser
Roedd cyfnewid llinell amser yn ganfyddiad diddorol ac annisgwyl lle’r oedd peidio â dychwelyd y llinell amser yn golygu nad oedd modd defnyddio data gweledol i awgrymu neu ymholi yn ystod y cyfweliad na’r dadansoddi. Fodd bynnag, yn ein hymagwedd sy’n canolbwyntio ar fenywod, blaenoriaethwyd ymreolaeth a rheolaeth cyfranogwyr yn hytrach na gorfodi dychwelyd y llinell amser, ac yn y pen draw newidiodd hyn elfen o’r broses cynhyrchu data. Bydd deall a chydbwyso’r goblygiadau hyn yn bwysig wrth ystyried y defnydd o linellau amser yng nghyd-destun astudiaeth wahanol.
Goblygiadau canlyniadau’r astudiaeth
Mae goblygiadau’r dull methodolegol hwn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod pandemig COVID-19, lle mae cyfyngiadau pellhau cymdeithasol wedi gorfodi dewisiadau cyfweld amgen o bell (h.y. ffôn, Zoom, WhatsApp, Skype). Mae ein canlyniadau’n pwysleisio bod llinellau amser gweledol yn effeithiol dros y ffôn gan amlygu bod angen archwilio dulliau gweledol eraill mewn cyd-destunau a lleoliadau eraill. Gallai llunio sail tystiolaeth ar sut y gallwn barhau i gynhyrchu naratifau manwl a gweithio o bell gael effaith sylweddol ar y ffordd rydym ni’n meddwl am gynhyrchu data ansoddol yn y dyfodol.