Yn ystod 2018 a 2019, bu rhaglen polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig yn archwilio rôl y wladwriaeth mewn plentyndod dros y 100 mlynedd ddiwethaf ar draws pedair cenedl y DU, ac o safbwynt meysydd polisi gwahanol. Bu’n dasg enfawr i ddod â’r holl dystiolaeth a dealltwriaeth gan yr yr amrywiaeth eang o randdeiliaid at ei gilydd, ac mae i hyn rôl hanfodol yn chwalu silos academaidd, polisi a phroffesiynol er mwyn ail-fframio trafodaethau ynghylch plentyndod ac edrych ar gysyniadau newydd am blant wrth lunio polisïau.
Wrth i ni ddechrau ar ein gweithgareddau yn ail gam y rhaglen, rydym ni’n gallu rhannu’r synthesis o dystiolaeth sydd gennym hyd yma ac sydd wedi gwneud cymaint i lywio cyfeiriad cyfredol ein gwaith. Mae ein hadroddiad synthesis Cam I yn edrych ar safbwyntiau cylchol a sylfaenol yn deillio o’n hadroddiadau ymchwil, astudiaethau achos, ac yn bwysicaf oll, ein gweithdai a’n rhyngweithio gydag ymchwilwyr, llunwyr polisïau, ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill ym maes polisi plentyndod.
Y tri safbwynt allweddol a nodwyd yn yr adroddiad synthesis yw:
1) Archwilio’r rhagdybiaethau sy’n sail i brofiad plentyndod a datblygiad polisi plentyndod, ond nad ydynt yn amlwg neu’n weledol yn y broses o lunio polisïau;
2) Archwilio effaith penderfyniadau polisi ar ganlyniadau plant, yn benodol ar draws pedair cenedl y DU, gan nodi nad polisïau am blant yn unig sy’n effeithio ar blant;
3) Archwilio’r ffordd y caiff gwerth ei roi ar brofiad plant wrth lunio polisïau, a ffyrdd y gellir mynegi hyn yn y broses polisi.
Mae’r cyntaf o’r rhain – Rhagdybiaethau Sylfaenol – yn cynnwys ystyried y graddau y caiff gwerth ei roi ar blentyndod yn ei hawl ei hun, o’i gyferbynnu ag ystyried plentyndod dim ond fel paratoad ar gyfer bod yn oedolyn. Ongl arall a gaiff ei ystyried yw rôl hawliau plant – yn benodol, sut y gallai ffocws mwy penodol ar hawliau plant arwain at newidiadau yn y ffordd y caiff polisïau eu llunio, o ran canlyniadau i blant ac ym mhrofiad plentyndod yn fwy cyffredinol. Yn ogystal, caiff rhagdybiaethau eu gwneud yn aml mewn polisïau ynghylch pryd y mae plentyndod yn dod i ben, ond ceir gwahaniaethau amrywiol sydd weithiau’n gwrthdaro ar draws gwahanol rannau o’r wladwriaeth (fel cyfiawnder troseddol, cyflogaeth, gofal cymdeithasol) a rhwng gwahanol genhedloedd y DU.
Mae’r ail safbwynt – Deall effaith polisïau ar ganlyniadau plant – yn archwilio natur dameidiog polisïau plentyndod a’r anhawster i gysylltu gwahanol ganlyniadau i blant â phenderfyniadau penodol am bolisïau. Nid dim ond y polisïau sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar blant sy’n effeithio ar brofiad plentyndod, ond polisïau ar draws cynfas ehangach o lawer hefyd. Er enghraifft, bydd effeithiau polisïau’n ymwneud â threth, budd-daliadau a chymhellion yn arwain at oblygiadau i lawer o blant. Agwedd arall a ystyrir yw effaith amrywiaeth o ran polisi ar draws pedair cenedl y DU ar bolisïau’n ymwneud â phlant.
Mae’r maes olaf – Deall profiadau plant, a chlywed eu lleisiau – yn canolbwyntio ar sut y caiff lleisiau plant, a’u barn eu hunain ar agweddau ar blentyndod, eu ‘clywed’ gan lunwyr polisïau, a sut mae hyn yn bwydo i’r polisïau. Gall fod anawsterau wrth sicrhau bod safbwyntiau plant yn cael eu cynrychioli’n gywir; er enghraifft, gall fod gwahaniaethau rhwng canfyddiad plant o les o’i gymharu â chanfyddiad oedolion o les.
Gan dynnu ar y synthesis uchod, nodwyd tri maes dadansoddol fel themâu canolog i Gam II y rhaglen. Y themâu hyn yw:
- ‘Bod yn blentyn yn erbyn dod yn oedolyn’: byddwn yn ymchwilio sut mae plant yn cael eu gosod mewn polisïau ac yn archwilio a oes modd gwneud gwelliannau drwy newid y cydbwysedd rhwng y ddau safbwynt ‘bod’ a ‘dod yn’.
- Cynnwys llais y plentyn mewn polisïau : bydd ein ffocws ar y ffordd fwyaf effeithiol i lunwyr polisïau glywed lleisiau plant a gweithredu arnynt. Bydd gweithgareddau’n trafod ac yn ceisio ymdrin â’r rhwystrau at gynnwys safbwynt y plentyn yn y trafodaethau ar bolisi.
- Ymagweddau at gydlyniad polisi’n seiliedig ar hawliau: bwriadwn ddatblygu dealltwriaeth ddwysach o sut y gallai polisi plentyndod edrych pe bai ymagwedd yn seiliedig ar hawliau’n fwy canolog wrth ffurfio, cyflwyno a chyflawni polisïau ar draws holl wledydd y DU.
Rydym ni nawr wrthi’n cynllunio gweithgareddau o fewn y tair thema i’w cynnal drwy gydol hydref 2020 ac i mewn i 2021.
Cadw cysylltiad
Gallwch ddarllen yr adroddiad synthesis llawn, sydd ar gael ar wefan yr Academi Brydeinig, tanysgrifio i gylchlythyr misol y rhaglen polisi Plentyndod, a chysylltu â thîm y rhaglen yn childhood@thebritishacademy.ac.uk.