Blwyddyn academaidd newydd, cyfleoedd newydd – Dysgu Creadigol Cymru

Dysgu Creadigol Cymru yn cyhoeddi cyfres o gyfleoedd newydd i ysgolion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.


Cynllun Bwrsariaeth Ymweliad Amgueddfa GEM

Mae Cynllun Bwrsariaeth Ymweliad Amgueddfa Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd (Cymru), a ariennir gan isadran diwylliant Llywodraeth Cymru, yn cynnig grantiau hyd at £1,000 i helpu ysgolion gwladol yng Nghymru fynd â’u disgyblion i amgueddfeydd achrededig yn eu hardal.