Prif Swyddog Gweithredu, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) newydd unigryw yn gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru, a’r corff cyntaf yn y byd i uno’r prosesau ariannu, goruchwylio a rheoleiddio ar gyfer addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth yng Nghymru.

Dyddiad cau: 4 Chwefror 2024


Coetiroedd Bach

Bydd Grant Coetiroedd Bach yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025. Mae’n rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Yn dilyn creu pum coetir bach fel rhan o gynllun peilot yn 2020, agorodd y cynllun hwn, sydd â chyllid gwerth £2.26 miliwn, ar 3 Ebrill. Ni sy’n ariannu’r cynllun, a bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ei weinyddu ar ein rhan.

Bydd y cynllun yn darparu cymorth ariannol i bobl creu Coetiroedd Bach. Rhaid i’r  coetiroedd hyn fod â’r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sydd

  • yn cael eu rheoli’n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi’r cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur