Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
6, 20, 26 Ionawr / 9, 28 Chwefror / 8, 16 Mawrth 2023
09:30 – 13:00
Bydd yr hyfforddiant undydd yma yn archwilio’r materion cysylltiedig â chynhyrchu ar y cyd, gan archwilio beth sy’n gweithio i bobl ifanc, ar sail eu profiadau, a bydd yn paratoi’r cyfranogwyr i fedru cynyddu ymwneud pobl ifanc â chynhyrchu atebion ar y cyd i’r materion a wynebir.
Ystyr cynhyrchu ar y cyd yw ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n galluogi’r bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r bobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu’r pŵer a’r cyfrifoldeb. Mae’n fater o ‘roi a derbyn’, a chydweithio mewn perthynas gyfartal, ofalgar a rennir. Dylai arwain at newid amlwg mewn dulliau gweithredu, ac mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad i gefnogaeth pan fydd angen, mewn modd sy’n diwallu eu hanghenion.
Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gyflwyno’n DDI-DÂL, gan ei fod yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith parhaus i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, sy’n cynnwys; Gweithwyr Cymdeithasol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd, Staff Cymorth a Gofal a staff sy’n gweithio wyneb yn wyneb gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.