Dod yn ‘annibynnol’
Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth ledled y deyrnas na ddylai fod rhaid i bobl ifanc adael gofal ar ôl troi’n 18 oed. Mae oedran pobl ifanc sy’n gadael eu cartrefi yn cynyddu, ar gyfartaledd. Gall y rhan fwyaf o bobl ifanc adael eu cartrefi pan fyddan nhw o’r farn eu bod yn barod ond, yn aml, mae pwysau ar bobl ifanc o dan ofal i fod yn annibynnol yn llawer cynt na’u cyfoedion. Mae ‘ymyl y dibyn’ ynghylch pobl ifanc o dan ofal yn ymddangos yn fwyfwy annheg.
Cynlluniau ledled y deyrnas ar gyfer pobl ifanc o dan ofal
Nod gwahanol gynlluniau ar draws y deyrnas yw caniatáu i bobl ifanc o dan ofal aros gartref ar ôl 18 oed. Mae gwahaniaethau pwysig rhyngddyn nhw ac mae amodau gan bob un.
Yng Ngogledd Iwerddon, dechreuodd ‘Going the Extra Mile’ yn ffurfiol yn 2010. Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl ifanc aros gyda’u cynhalwyr nes troi’n 21 oed os ydyn nhw mewn addysg, hyfforddiant neu swydd. Gan nad yw’r cynllun yn un statudol, mae’n aneglur sut mae’n gweithio mewn gwahanol ardaloedd na faint sy’n manteisio arno.
Yn yr Alban, mae rhaglen ‘Continuing Care’ yn cynnig amrywiaeth o gymorth i bobl ifanc gan gynnwys eu helpu i aros yn eu cartrefi hyd at 21 oed. Dyma’r unig gynllun o’r fath yn y deyrnas sy’n caniatáu i bobl ifanc aros yn eu cartrefi waeth beth fo’r math o breswylfa – boed ‘gartref maeth teuluol’, trefniant perthynas neu ofal preswyl.
Yn Lloegr, gall cynllun ‘Staying Put’ fod yn berthnasol i bobl ifanc hyd at 25 oed os ydyn nhw mewn addysg neu hyfforddiant o hyd. Dim ond i bobl ifanc o dan ofal maeth y mae hyn yn berthnasol. Mae rhai o lwybrau cynllun ‘Staying Close’ yn cynnig llety lled-annibynnol yn agos i’w cartrefi gofal i bobl ifanc o dan ofal preswyl, fodd bynnag.
Bydd blog yr wythnos hon yn amlinellu manylion cynllun Cymru, ‘Pan Fydda i’n Barod‘.
Ansicrwydd a gwahaniaethau
Mae cynllun ‘Continuing Care’ yn dweud y dylid chwilio am drefniant newydd i rywun ifanc os oes chwalfa yn yr un cyfredol. Mae cynllun Cymru yn argymell seibiant (28 diwrnod) fel y gall rhywun ifanc benderfynu dychwelyd i’w gartref. Does dim byd ynddo i ddweud na all rhywun ddychwelyd i amodau ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar ôl cyfnod hwy, fodd bynnag, os yw’r cynhaliwr a’r sawl sydd o dan ei ofal yn cytuno.
Er bod pob un o’r cynlluniau’n datgan bod rhaid i’r cynhaliwr a’r un ifanc fod o blaid ymrwymo i’r trefniant, mae canllawiau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn nodi y byddai angen rhagor o drafodaethau pe bai’r un ifanc yn fodlon, ond y cynhaliwr yn ansicr, i weld a fyddai modd lleddfu’r pryderon.
Er mai dim ond rhaglen ‘Continuing Care’ sy’n caniatáu’n benodol i bobl ifanc aros mewn gofal preswyl, mae canllawiau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn nodi y dylai’r cynllun fod ar gael i bobl ifanc mewn gofal preswyl ar yr amod y byddai rhywun yn symud i gynhaliwr maeth o flaen llaw, er mwyn ymrwymo i drefniant wrth droi’n 18 oed, yn hytrach nag aros yn ei gartref gofal preswyl.
Nodau delfrydol ac ymarferol
Er bod y cynlluniau hyn yn anelu at helpu pobl ifanc i aros gartref nes eu bod yn teimlo’n barod i fod yn annibynnol, y gwir amdani yw nad oes llawer o bobl ifanc yn ymrwymo i’r trefniadau hyn. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o amser maen nhw’n tueddu i bara, nac a yw’r bobl ifanc a’r cynhalwyr yn fodlon arnyn nhw, chwaith. Mae adegau ‘ymyl dibyn’ o hyd hefyd – yn aml, rhaid i drefniadau ddod i ben pan ddaw pen-blwydd neu ddiwedd cwrs.
Bydd trafod, pwyso a mesur yn ddefnyddiol i wella’r cynnig i bobl ifanc. Mae angen data, fodd bynnag, i ddeall rhagor am yr hyn sy’n digwydd i bobl ifanc pan fyddan nhw’n troi’n 16 neu’n 18 oed ac yn gorfod penderfynu ble yr hoffen nhw fyw.
Ysgrifennwyd gan Lorna Stabler