ADRODDIAD YMCHWIL

Awduron: Judy Sebba, David Berridge, Nikki Luke, John Fletcher, Karen Bell, Steve Strand, Sally Tomas, Ian Sinclair, Aoife O’Higgins (a baratowyd ar gyfer The Nuffield Foundation)

Blwyddyn: 2015

Crynodeb o’r Adroddiad:

Y prosiect hwn oedd yr astudiaeth fawr gyntaf yn y DU i archwilio’r berthynas rhwng canlyniadau addysgol, hanes gofal pobl ifanc a nodweddion unigol. Mae’n cysylltu’r Gronfa Ddata Genedlaethol Disgyblion a’r Gronfa Ddata Plant mewn gofal ar gyfer y garfan a oedd yn gymwys i gymryd TGAU yn 2013.

Canolbwyntiodd y prif ddadansoddiad ar y cynnydd yn yr ysgol uwchradd (Cyfnodau Allweddol 2-4) ymhlith pobl ifanc a oedd wedi bod mewn gofal am dros flwyddyn ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Ategwyd dadansoddiad ystadegol manwl gan gyfweliadau â 26 o bobl ifanc mewn chwech awdurdod lleol ag oedolion sy’n arwyddocaol yn eu gyrfaoedd addysgol, gan gynnwys gofalwyr maeth, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a phenaethiaid Ysgol Rithwir (mae Ysgol Rithwir yn gweithredu fel hyrwyddwr o fewn awdurdod lleol, a’i nod yw gwella a hyrwyddo addysg pob plentyn mewn gofal fel pe byddent mewn un ysgol sengl).